Mae canlyniadau ymchwil newydd sy’n dangos sut mae argyfwng y coronafeirws wedi effeithio ar bobl ledled Cymru wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.

Fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol misol newydd dros y ffôn, gofynnwyd cwestiynau i 3,000 o bobl o bob rhan o Gymru am lesiant ac unigrwydd, cyflogaeth, cyllid, tlodi bwyd, apwyntiadau meddyg teulu, gofal cymdeithasol ac addysg i ddarganfod sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu bywydau nhw.

Er bod argyfwng y coronafeirws wedi achosi ansicrwydd na welwyd mo’i debyg o’r blaen, mae’r arolwg yn dangos bod pobl Cymru yn hapus ar y cyfan a bod ganddynt ymdeimlad o ysbryd cymunedol. Fodd bynnag, yn naturiol, maent yn teimlo’n fwy pryderus nag arfer.

Dyma rai o ganlyniadau allweddol arolwg mis Mai:

  • 93% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol gynradd ac 85% o rieni sydd â phlentyn mewn ysgol uwchradd yn fodlon bod yr ysgol yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi eu plant gyda’u dysgu.
  • 75% o bobl yn dweud eu bod yn hapus ar y cyfan, gyda 41% o bobl yn dweud eu bod wedi teimlo’n bryderus yn ystod y cyfnod.
  • 85% o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol (+13% ers y llynedd)
  • Dywedodd pedwar o bob pump o’r bobl sy’n gweithio y byddent yn cael cyflog llawn pe bai’n rhaid iddynt hunanynysu a dywedodd 44% o bobl eu bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith, neu eu gwaith i gyd, gartref.

Wrth ddiolch i’r unigolion a gymerodd ran yn yr arolwg, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

Mae’r arolwg hwn yn hynod o werthfawr gan ei fod yn rhoi cipolwg i ni o sut mae’r pandemig wedi effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru. Bydd gwrando ar y safbwyntiau hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn wrth inni ddechrau ar ein taith i adferiad.

Rydyn ni wedi wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen dros y misoedd diwethaf ac mae mwy i ddod eto wrth inni ddechrau ailgodi’n gryfach. Ond mae un peth, yn fwy na dim byd arall, wedi bod yn amlwg drwy gydol y sefyllfa, sef cadernid pobl Cymru. Rydw i eisiau diolch i bawb am y cryfder y maen nhw wedi ei ddangos a’u parodrwydd i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.

Diogelu Cymru

Mae canlyniadau llawn yr arolwg ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.