Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Elusennau, diolchodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, i elusennau a gwirfoddolwyr ledled Cymru am wneud bywyd yn well i’w cymunedau drwy gydol pandemig Covid-19.

Dywedodd:

Mae gwirfoddolwyr ac elusennau yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr drwy gydol cyfnod clo Covid-19 a thu hwnt i hynny. Dw i am ddiolch i’r elusennau a’r gwirfoddolwyr o bob oed ac o bob rhan o Gymru sydd wedi ymrwymo i helpu eu cymunedau ers mis Mawrth.

Mae cymunedau ledled Cymru yn gweld budd hyn wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae ymrwymo i achos ar y cyd yn atgyfnerthu cymunedau gofalgar egnïol, lle mae cwlwm cydweithredu a gwaith tîm yn clymu dinasyddion at ei gilydd, lle mae anghydraddoldeb yn cael ei leihau, a lle mae’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr. Gawn ni ofyn ichi barhau i gynnig eich gwasanaethau ym mha ffordd bynnag sydd orau gennych chi – ond gofalwch gadw’ch hun ac eraill yn saff.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Mae elusennau yma yng Nghymru a ledled y byd yn helpu i gefnogi cymunedau i fod yn fwy gwydn ac ysbrydoli cynwysoldeb - ni fu hyn erioed yn bwysicach nag yn 2020.

Ar ddechrau'r flwyddyn, dioddefodd cymunedau yng Nghymru effeithiau dinistriol storm Dennis ac yna argyfwng COVID-19. Bu elusennau a grwpiau gwirfoddol yn ymgynnull i helpu i gefnogi ein cymunedau ac maent wedi bod, a byddant yn parhau i fod yn hanfodol yn yr adferiad.

Yn CGGC, mae pob dydd yn ddiwrnod elusennau, ond heddiw rydym yn dathlu’r gydnabyddiaeth i’r holl sefydliadau anhygoel sydd mor allweddol yn ein cymdeithas, yn enwedig yn ystod yr amseroedd cythryblus hyn.

Aeth Jane Hutt ymlaen i ddweud:

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Elusennau, dw i am ystyried a dathlu cyfraniad enfawr elusennau, mudiadau’r trydydd sector a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Diolch ichi – rydych chi wedi arbed bywydau.

Mae eich haelioni diflino wedi darparu cymorth a chefnogaeth hanfodol lle roedd eu hangen fwyaf, a dw i’n gobeithio y byddwch chi’n gallu parhau i gynnig eich help wrth i’r hydref droi’n aeaf.

Mae Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol wedi disodli Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, ac fe’i lansiwyd ar 17 Awst. Bydd yn galluogi sefydliadau i addasu a darparu gwasanaethau i gymunedau ledled Cymru, yn enwedig mewn perthynas â heriau penodol sydd wedi codi yn ystod pandemig Covid-19, megis iechyd meddwl a lles cymdeithasol.

Dywedodd Huw Lewis, Rheolwr Datblygu’r Trydydd Sector, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent:

Yn sicr, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr drwy sicrhau cynaliadwyedd hirdymor llawer o fudiadau cymunedol a thrydydd sector Blaenau Gwent. Mae gwirfoddolwyr ac elusennau wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i rai o aelodau mwyaf difreintiedig ein cymuned.

Mae Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol ar agor bellach ar gyfer ceisiadau.

Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yn parhau i fod ar agor ar gyfer ceisiadau, a bydd yn parhau i ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i elusennau a mudiadau’r trydydd sector i helpu gyda biliau a hwyluso llif arian.