Cymorth busnes - Coronafeirws

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf.

Mae’r estyniad hwn i’r moratoriwm ar fforffediad prydlesau masnachol yn cael ei gyhoeddi wrth i fusnesau manwerthu dianghenraid ddechrau ailagor yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Er y dylai’r rhent sy’n ddyledus gael ei dalu lle y bo’n bosibl, bydd y mesur hwn yn sicrhau na fydd unrhyw fusnes yn cael ei droi allan os bydd yn colli taliad yn ystod y tri mis nesaf.

Roedd disgwyl i’r mesur ddod i ben ar 30 Mehefin ond mae bellach wedi cael ei estyn hyd 30 Medi. Bydd hyn yn helpu’r economi ar draws Cymru i adfer. Bydd yn atal achosion o droi pobl allan yn afresymol ac yn helpu i ddiogelu swyddi a busnesau a oedd yn masnachu cyn y pandemig.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates:

Bydd yr estyniad hwn yn hanfodol er mwyn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau er mwyn gallu ailagor a darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cwsmeriaid. Bydd hyn yn lleihau’r perygl y gallai busnesau orfod cau gan greu diweithdra.

Rydym wedi cyflwyno mesurau pwysig er mwyn helpu i ddiogelu economi Cymru rhag effaith drychinebus y coronafeirws. Ein pecyn cymorth ni  ar gyfer busnesau yw’r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU. Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn ymateb i anghenion busnesau ar adeg mor heriol ac yn cynllunio ein llwybr tuag at sicrhau Cymru ffyniannus ar ôl y pandemig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:

Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod ein trefi a’n strydoedd mawr yn parhau’n llewyrchus. Bydd sicrhau y gall busnesau Cymru ailagor yn ddiogel heb ofni cael eu troi allan yn dilyn cyfnod mor anodd yn gwbl allweddol wrth i ni ailagor ein strydoedd mawr a chanol ein trefi.

Mae sicrhau naws am le ar gyfer ein trefi yn bwysicach nag erioed. Wrth i fesurau’r cyfnod clo gael eu llacio yn raddol mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â phartneriaid er mwyn creu canol trefi sy’n gynaliadwy at y dyfodol lle y gall busnesau ffynnu. Bydd y mesurau estynedig hyn yn ychwanegu at y pecyn cymorth ar gyfer strydoedd mawr a busnesau sy’n cynnwys cefnogi Ardaloedd Gwella Busnes â’u costau rhedeg wrth i’n trefi ddechrau adfer.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Cod Ymarfer er mwyn hyrwyddo arferion da ar gyfer landlordiaid a thenantiaid wrth iddynt wynebu’r heriau sydd ynghlwm wrth y coronafeirws.

Diogelu Cymru