Logo LEADER Ewropeaidd

Maent yn cynrychioli trawsdoriad o gymunedau gwledig - ac maent yn cynnwys dyn busnes, banerwr ar gyfer Gŵyr, gweithiwr ieuenctid ac offeiriad. 

Yn ddiweddar maent wedi dod yn aelodau o'r Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) sy'n helpu i gefnogi mentrau cymdeithasol, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig fel Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Y Crwys, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr.

Mae'r grŵp yn chwarae rôl allweddol ym Mhartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe, a reolir gan Gyngor Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Rydym wedi recriwtio aelodau newydd gan gynnwys y rheini â chefndir yn y trydydd sector a'r sector preifat; mae gan bob un ohonynt angerdd dros ein prif ardaloedd gwledig.
 

“Mae'r grŵp yn dod â brwdfrydedd, creadigrwydd ac uchelgais i Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe ac yn helpu i fwyafu'r gwahaniaeth a wneir gan y rhaglen.
 
“Bydd ein haelodau diweddaraf yn ymuno ag eraill i benderfynu ar flaenoriaethau'r rhaglen o fewn cwmpas strategaeth sydd wedi'i llunio'n gywrain. 

"Maent yn helpu i gadw'r strategaeth yn gyfredol ac yn berthnasol. Maent yn helpu i glustnodi arian yn seiliedig ar anghenion y wardiau gwledig, gan wneud penderfyniadau pwysig gyda chymorth swyddogion y cyngor."

Hyd yma, mae'r GGLl wedi rhoi tua £430,000 mewn arian grant o'r RhDG.

photograph of nigel doyle

Dywedodd Nigel Doyle, offeiriad Anglicanaidd o ardal Gŵyr, y bydd dod yn aelod o'r grŵp yn ei alluogi i helpu eraill i wireddu eu breuddwydion. Meddai,

"Yn aml mae gan bobl syniadau da iawn am bethau bach a allai wella cymuned mewn ffyrdd bach, ond dydyn nhw ddim yn gwybod sut i roi'r syniadau hynny ar waith.

"Mae'r GGLl yn gyfle i weld y syniadau bach hyn yn dod yn realiti mawr go iawn er budd y gymuned leol a'r ardal ehangach."

 

 

photograph of amy beth mccarthy

Swyddog gofalwyr ifanc yn YMCA Abertawe yw Amy-Beth McCarthy, ei gyd-aelod newydd o'r GGLl. Mae'n gweithio gydag ysgolion a gweithwyr proffesiynol i gynyddu ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc, i ddarparu hyfforddiant ac i roi'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc ar waith. Meddai,

"Gwnes i ymuno â'r GGLl i gynrychioli pobl ifanc drwy fy nyhead am Abertawe gynaliadwy lle gall cymunedau lleol gyfrannu, ffynnu a theimlo eu bod wir yn perthyn i Abertawe.

"Rwy'n frwdfrydig am yr amgylchedd a'n treftadaeth naturiol."

 

 

photograph of rob morgan

Mae Rob Morgan yn cynrychioli'r bumed genhedlaeth o deulu ffermio yn ardal Gŵyr, ac mae wedi ehangu i feysydd fel coed Nadolig a dewis eich pwmpenni eich hunain. Meddai,

"Rwy'n angerddol dros weld Gŵyr yn cael ymdeimlad fawr o hunaniaeth gymunedol, cadw pobl ifanc yn eu swyddi yn ardal Gŵyr, cynhyrchu mwy o gynnyrch yma a chadw'n moroedd yn lân ac yn hygyrch."

 

 

photograph of malcolm ridge

Malcolm Ridge sy'n cadeirio bwrdd ymddiriedolwyr Cymdeithas Gŵyr ac mae'n cyd-olygu cylchgrawn blynyddol y gymdeithas. Meddai, 

"Mae mentrau defnyddiol yn aml yn dechrau gydag unigolyn neu grŵp bach - os gall y grŵp gweithredu gynnwys mwy o aelodau o'n cymunedau gwahanol, rydym yn debygol o gael adlewyrchiad mwy cywir o'r hyn sydd er budd gorau'r cymunedau yn gyffredinol."

 

 

Cronfa Amaethyddol Ewrop 7 mlynedd ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig yw'r Bartneriaeth Datblygu Gwledig, ac fe'i hariennir gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n dod i ben yn 2023.