Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tasglu ‘chwalu rhwystrau’ ar frys i wneud Cymru’n lle mwy deniadol ynddo i fuddsoddi ym mhob math o seilwaith Digidol, meddai adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW).

Yn ei set lawn gyntaf o argymhellion i Lywodraeth Cymru, dywed y Comisiwn bod gormod o sylw wedi’i roi ar hyrwyddo ‘ffeibr i’r cartref’ (FTTH) a dim digon ar wella band eang symudol. Nid yw NICW yn credu bod targed Llywodraeth y DU i ddarparu ffeibr i bob cartref erbyn 2025 yn realistig ac mae’n poeni bod y problemau sy’n gysylltiedig â darparu ffeibr yng Nghymru – poblogaeth denau, llai o alw a daearyddiaeth anodd – yn golygu y bydd aelwydydd a busnesau Cymru’n cael eu hunain yng nghefn y ciw.

Dim ond 3% o’r holl ddata sy’n cael eu cario ar rwydweithiau’r DU sy’n cael eu cario ar rwydweithiau symudol, canran lawer is na gweddill Ewrop.  Mae NICW yn argymell y gallai cysylltiadau band eang symudol fod yn opsiwn rhad a da ar gyfer busnesau a chartrefi yng nghefn gwlad Cymru, naill ai’n barhaol tan y daw cyswllt ffeibr i’r cartref.

Nod adroddiad NICW ar Seilwaith Cyfathrebu Digidol Cymru yw helpu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth cyfathrebu digidol ar gyfer diwallu anghenion Cymru.  Er mwyn bwrw ymlaen yn gyflym â hyn, byddai tasglu ‘chwalu rhwystrau’ o dan arweiniad uwch swyddog o Lywodraeth Cymru ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, yn gyfrifol am roi llawer o’r newidiadau a argymhellir ar waith. Gan gynnwys:

  • Trafod targedau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith symudol 4G a 5G yn y cartref â’r diwydiant symudol.  Bydd hynny’n cynnwys cynnig arian Llywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith symudol o dan raglen newydd, mwy hyblyg o’r enw ‘Gigabit Cymru’.
  • Rhoi ystyriaeth ddifrifol i reolau cynllunio sy’n rhoi mwy o ffafriaeth i seilwaith symudol na’r rheini yn rhannau eraill y DU.
  • Peidio â gwario mwy na £3500 i gysylltu aelwydydd unigol ar hyn o bryd â rhwydwaith ffeibr a symleiddio’r system dalebau at y diben hwn.
  • Buddsoddi’n drwm i fabwysiadu mwy o dechnolegau digidol newydd os yw’r seilwaith yn bod eisoes, ond dim ond ar ôl i Archwilio Cymru adolygu effeithiolrwydd y rhaglenni sy’n bod eisoes.

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, John Lloyd Jones OBE:

Mae cyswllt digidol wedi bod yn hanfodol dros gyfnod pandemig COVID-19  a bydd yn parhau’n sbardun ar gyfer datblygu’r economi a darparu gwasanaethau digidol.

Daw manteision economaidd sylweddol i fusnesau ac i aelwydydd o gael cyswllt ffeibr i’r cartref a 5G. Mae ansawdd y cyswllt digidol yn dyngedfennol o ran ble mae busnesau newydd sy’n tyfu yn penderfynu ymsefydlu a ble mae pobl ifanc yn dewis byw.  Fedran nhw ddim fforddio aros a symudan nhw i ble bynnag y mae yna fand eang cyflym a dibynadwy.

Eto i gyd, mae’r cyswllt band yn llawer gormod o ardaloedd yng Nghymru yn annigonol ac mae cyfleoedd eisoes yn cael eu colli.  Er mwyn i bethau allu gwella’n gyflym, mae angen mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru.

Mae Adroddiad Blynyddol NICW, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn nodi y daeth gwaith y Comisiwn ar ei adroddiadau eraill ar gyfer 2020, ar Drafnidiaeth ac Ynni, i ben am i adnoddau’r Comisiwn orfod cael eu dargyfeirio i Covid-19. Roedd hynny’n berffaith ddealladwy.  Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma yn y meysydd hyn ynghyd â’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cafodd NICW ei sefydlu yn 2018 fel corff anstatudol i roi cyngor a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar y seilwaith economaidd ac amgylcheddol sydd ei angen dros y pum i dri deg mlynedd nesaf.