Er gwaethaf heriau’r pandemig Coronafeirws, gweithiodd Beatriz Albo a’i thîm yn Sabor de Amor yn Wrecsam yn galed i gefnogi cynhyrchwyr a chymunedau lleol trwy gyflenwi cyflenwad cyson o’u sawsiau a’u salsas sydd wedi ennill llu o wobrau.   

Lansiodd Beatriz, a enillodd raglen ‘Top of the Shops’ BBC2 ddwy flynedd yn ôl, y busnes yn 2015 gan ddefnyddio ryseitiau teuluol i greu blasau anhygoel, yn cynnwys y ‘Paella in a Bottle’ hynod boblogaidd.

Ar ôl cyrraedd gogledd Cymru fel myfyrwraig bioleg yn 1993, a gweithio fel athrawes yn ddiweddarach, penderfynodd fynd ar ei liwt ei hun ar ôl sicrhau llwyddiant mewn marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd a diod

Gyda chymorth Taste Wales cynyddodd ei hyder ac roedd hi ar fin llofnodi cytundeb allweddol gyda chyfanwerthwr adnabyddus yn y gwanwyn, cyn i gyfyngiadau Covid-19 ddod i rym a difetha’r cynlluniau hyn.  

Serch hynny mae Beatriz – y mae ei mab Albert, sy’n meddu ar radd Rheolaeth Busnes, wedi ymuno â hi yn y cwmni – wedi bod yn brysur yn creu perthnasoedd newydd ac mae’n bwriadu eu datgelu yn ystod y misoedd nesaf.  

“Roeddem ni ar fin lansio gwasanaeth bwyd newydd, wrth fynd i mewn i’r cyfnod clo cyntaf. Roedd yn gyfnod cyffrous iawn, ac roedd pawb wrth eu boddau gydag ef,” meddai Beatriz, sy’n hanu o Salamanca.

“Yna daeth mis Mawrth ac yn sydyn roedd y sector bwyd cyfan mewn dryswch, ac roedd yn amhosibl parhau bryd hynny.”  

Ychwanegodd: “Fel llawer o fusnesau bu’n rhaid i ni newid ein cynlluniau a cheisio bod yn arloesol er mwyn symud ymlaen, ac fe wnaethon ni ddysgu, wrth ddelio gyda phrynwyr – beth bynnag fo’r sefyllfa – mae’n rhaid i chi ddyfalbarhau."  

“Fe wnaethom ni weithio’n galed y tu ôl i’r llenni, ac mae Albert yn ymuno efo fi wedi bod yn hwb mawr, i geisio mynd â phethau i’r lefel nesaf. Ym mis Mai gwnaethom lwyddo i sicrhau contract gydag archfarchnad ar-lein allweddol i werthu’r sawsiau paella a salsa brava."  

“Roedd hynny’n wych i ni, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi perthynas newydd arall gyda chyflenwr allweddol y flwyddyn nesaf.”

Mae gan Beatriz gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, ond mae’n mynnu nad oes unrhyw beth yn bwysicach na chefnogi busnesau lleol, defnyddio’r cynnyrch lleol gorau a “rhoi’n ôl” i’w chymuned. 

Mae hi’n mynd i ddechrau cynnal arddangosfeydd coginio a sesiynau blasu coginio Cyfandirol rheolaidd ar-lein yn dilyn llwyddiant y digwyddiad a gynhaliwyd gyda Marina Midolo o gwmni Marina’s Italian Cookery wedi’i lleoli yng Nghyffylliog, ger Rhuthun, fel rhan o raglen digwyddiadau ar-lein Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru eleni.  

Gwneud pobl yn hapus yw’r prif flaenoriaeth i Sabor de Amor.

“Yn ystod yr haf cawsom lawer o adborth gan bobl a oedd wedi gorfod canslo gwyliau i Sbaen a’r Canoldir, felly fe wnaethon nhw brynu ein cynnyrch ni er mwyn gwneud eu prydau eu hunain adref” meddai Beatriz.

“Rydw i’n berson emosiynol felly roedd yn golygu cymaint i mi glywed sut roedd pen-blwydd neu ddathliad rhywun gyda’u teulu wedi bod yn arbennig o’n herwydd ni, a’n bod ni wedi gwneud gwahaniaeth." 

“Roedd dod â rhywfaint o heulwen i’w bywydau ac ar eu platiau, yn enwedig yn ystod cyfnod mor drist ac anodd i bawb, mor bwysig i ni.”  

Ac yn ystod yr wythnos nesaf bydd Beatriz a’r tîm yn mynd y filltir ychwanegol i helpu’r rhai sydd fwyaf o’i angen.  

“Rydym ni’n mynd i fod yn coginio prydau i’w rhoi i lochesi i’r dirgartref yn yr ardal, er mwyn rhoi yn ôl i bobl ar ôl blwyddyn anodd iawn,” ychwanegodd.  

“Ac roedd yn wych gwneud hynny trwy gyfrwng Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd; roeddem ni wrth ein boddau’n bod yn rhan o hynny, y ffilmiau a’r digwyddiadau rhithiol ar-lein a roddodd gyfle i bobl gael hwyl a dathlu cynnyrch lleol.”   

Trefnir Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru gan Fwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych.  

Derbyniodd y prosiect hwn gyllid gan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Os hoffech gael gwybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com.  Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org.

Edrychwch ar www.sabordeamor.com i gael y newyddion a’r ryseitiau diweddaraf gan Sabor de Amor.