Dyddiad i’r Dyddiadur
Ymunwch â ni rhwng 21 a 25 o Fedi am ragor o wybodaeth.
Gweminar: Bachwch y cyfle i ffermio
Dyddiad: 21/09/20 (20:00-21:00)
Ymunwch â Cyswllt Ffermio yn fyw ar Facebook neu ar Zoom i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael trwy’r rhaglen Mentro.
A ydych chi eisiau bachu’r cyfle i ffermio? Neu a ydych chi’n aros am y cyfle hwnnw i ddechrau gyrfa o fewn amaethyddiaeth? Gall y rhaglen Mentro fod yn addas i chi!
Yn ystod y sesiwn yma, bydd Einir Davies o Cyswllt Ffermio yn ymuno gyda phanel o siaradwyr profiadol a fydd yn rhannu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad am y rhaglen Mentro.
Bydd y panel yn cynnwys Dr Nerys Llewelyn Jones, ymgynhorydd amaethyddol, ynghŷd a ffermwyr mewn gwahanol fentrau ar y cyd: Peredur Owen, Rhys Williams ac Emyr Owen.
Os hoffech ymuno â'r weminar trwy zoom, mae’n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb yma neu ebostiwch delyth.evans@menterabusnes.co.uk erbyn 3yp 21/09/2020.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.