Anwen and Rhodri Hughes

Mae cyfranogiad ffermwr o Geredigion mewn prosiect ymchwil glaswellt mawr wedi arwain at welliannau ym mherfformiad ei busnes defaid, gyda llwyddiant mesuradwy o ran defnyddio porfa a thwf ŵyn, ac mae nawr yn edrych i gymryd rhan mewn treial arall i helpu symud y diwydiant i’r lefel nesaf.

Mae Anwen Hughes o fferm Bryngido, ger Cei Newydd yng Ngheredigion wedi bod yn rhan o GrassCheckGB, prosiect ymchwil sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC) a sawl partner diwydiant arall, ers cychwyn y prosiect yn 2018. 

Nod GrassCheckGB yw gwella cynhyrchiant glaswelltir a’r defnydd o borfa, gyda phumdeg o ffermydd da byw ar draws Brydain gan gynnwys naw fferm ddefaid a gwartheg yng Nghymru, sy’n mesur eu cynnyrch glaswellt yn ogystal â lleithder y pridd a darlleniadau o’r tywydd.

Mae gan Anwen ddiadell o 200 o famogiaid masnachol Llŷn- croes, ac yn amaethu mewn partneriaeth â’u gŵr, Rhodri a’u mab, Glyn ar 35 hectar. 

Ers ymuno â GrassCheckGB, mae Bryngido wedi dechrau defnyddio system pori cylchdro. Esbonia Anwen, “Mae GrassCheckGB wedi dysgu ni i wneud y mwyaf o’r glaswellt mewn ffordd mwy effeithiol, ac mae wedi ein galluogi i besgi 300 o ŵyn ar borfa’n unig, geb orfod defnyddio dwysfwyd."

“Mae symud i system pori cylchdro hefyd wedi golygu ein bod wedi cynyddu pwysau marw ŵyn. Eleni rydym yn gweld pwysau cyfartalog o rhwng 18.5 – 19.0kg ac rydym yn credu’n gryf bod y cynnydd hwn yn nhyfiant yr ŵyn o ganlyniad uniongyrchol i’r defnydd gwell a rheolaeth well o’r borfa.” 

Mae Anwen wedi’i dewis yn ddiweddar i gyflenwi ŵyn ar gyfer Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru HCC.

Dr Eleri Thomas, HCC Meat Quality Executive

Ychwanega Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC, Dr Eleri Thomas, “Bydd y prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yn ymchwilio i ffactorau ar y fferm a ffactorau prosesu sy’n cael dylanwad ar ansawdd bwyta Cig Oen Cymru PGI. Eleni, bydd y prosiect yn edrych yn benodol ar ddeiet pesgi ŵyn a’r dylanwad posib ar flas Cig Oen Cymru. Fe wnaeth Bryngido gyfenwi ŵyn wedi’u pesgi ar borfa i’r prosiect.”

Mae’r prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru yn un o dri phrosiect pum-mlynedd  yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae GrassCheckGB yn gydweithrediad rhwng Hybu Cig Cymru (HCC), y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Quality Meat Scotland (QMS) ynghyd â CIEL (Y Ganolfan Ragoriaeth Arloesol mewn Da Byw) ac ymchwilwyr yn y Sefydliad Amaeth-Bwyd a Biowyddorau (AFBI) a Rothamsted Research, yn ogystal â noddwyr y diwydiant, sef Germinal, Waitrose & Partners, Sciantec Analytical, Datamars Livestock a Handley Enterprises Cyf. Mae CIEL yn cynorthwyo i brynu offer ar ffermydd trwy arian gan Innovate UK, sef Asiantaeth Arloesi y DU.

Cafodd y gwaith ei ariannu o’r gronfa o £3.5m o ardollau cig coch AHDB, sef arian a glustnodwyd ar gyfer prosiectau cydweithredol a reolir gan y tri chorff ardoll cig ym Mhrydain, sef AHDB, HCC a QMS. Cafodd y gronfa ei threfnu fel cytundeb dros dro tra bo chwilio am ateb hirdymor i’r mater o ardollau’n cael eu casglu mewn lladd-dai yn Lloegr am anifeiliaid a gafodd eu magu yng Nghymru neu’r Alban.