Mesur 4.1
Nod y cyfnod hwn ar gyfer datgan diddordeb yw helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol.
Amserlenni
1. Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd (FBG) (https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd) yn cychwyn ar 1 Mawrth 2021
2. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Ebrill 2021
3. Gallai Datganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod Datgan Diddordeb
Y cyllid sydd ar gael
4. Mae gan y Grant Busnes i Ffermydd gyllideb o £5 miliwn ar gyfer y cyfnod datgan diddordeb hwn.
Cymhwystra
5. Nid yw'n ofynnol mynychu digwyddiad Sioe Deithiol Ffermio i'r Dyfodol Cyswllt Ffermio.
6. Os ydych wedi gwneud cais am y Grant Busnes i Ffermydd yn ystod unrhyw gyfnod blaenorol, ac mae eich Datganiad o Ddiddordeb wedi cael ei dderbyn, ond heb gyrraedd yr uchafswm o £12,000, gallwch wneud cais yn ystod y cyfnod hwn neu gyfnod yn y dyfodol. Rhaid i werth grant eich Datganiad o Ddiddordeb fod yn £3,000 neu’n fwy.
7. Os ydych wedi gwneud cais am y Grant Busnes i Ffermydd yn ystod unrhyw gyfnod blaenorol, ac mae eich Datganiad o Ddiddordeb wedi cael ei dderbyn ac wedi cyrraedd cyfanswm o £9000 neu fwy, ond heb gyrraedd yr uchafswm o £12,000, rhaid ichi ddewis eitem â gwerth grant o £3000 neu fwy, a bydd yr eitem hon yn cael ei hariannu'n rhannol.
8. Mae hwn yn gynllun ar wahân i gynllun y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau, felly, ni fydd unrhyw daliad a gewch ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau yn cyfrif tuag at uchafswm gwerth y Grant Busnes i Ffermydd o £12,000. Yn yr un modd, ni fydd gwerth y taliad a dderbynnir ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd yn cyfrif tuag at unrhyw gyfnodau cynllun y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau yn y dyfodol.
9. Y grant lleiaf sydd ar gael yw £3,000
10. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £12,000
Gall ymgeiswyr ofyn cwestiynau ynghylch eu Datganiad o Ddiddordeb a’r broses gan ddefnyddio eu cyfrif RPW Ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Busnes i Ffermydd yma: https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd