Gall prosiect unigryw ar gyfer cynllunio iechyd anifeiliaid roi hyder i’n partneriaid masnachu rhyngwladol a’u defnyddwyr a gall chwarae rhan hollbwysig ar ôl Brexit, meddai Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru wrth gynhadledd rithwir Hybu Cig Cymru (HCC) yr wythnos ddiwethaf. 

Roedd yr Athro Christianne Glossop yn arwain sesiwn ar un o brosiectau HCC, sef prosiect Stoc+, sy’n helpu ffermwyr cig eidion a defaid yng Nghymru sy’n gweithio’n agos gyda’u milfeddygon ar gynllunio iechyd anifeiliaid trwy ddulliau rhagweithiol. Pwysleisiodd y cyfleoedd cyffrous yn gyffredinol yr oedd y prosiect yn ei gynnig i ffermwyr yng Nghymru. 

“Fe allech chi naill ai gynllunio iechyd ar y fferm drwy dicio blychau neu fe allech chi wneud gwaith trylwr – allan ar y fferm. Gwnewch y broses yn un fyw – o anadlu a chynllunio - lle mae'r ffermwr a'r milfeddyg yn cydweithio” meddai. 

“Dylech gynnwys cofnodion cynhyrchu’r fferm; y defnydd o feddyginiaethau; costau cynhyrchu; ansawdd y cynnyrch; a graddio.”

“Ystyriwch yr hyn sy'n bwysig i chi, y contractau sydd gennych a nodwch unrhyw bryderon y gallech eu targedu. Meddyliwch am y cyfan mewn ffordd drefnus. Penderfynwch beth ddylai gael blaenoriaeth, a sut mae mynd i’r afael â’r flaenoriaeth honno?" 

“Hefyd, rhaid ystyried sut mae rheoli clefydau a’u hatal rhag cyrraedd y fferm. Os oes gennych glefyd ar y fferm, rhaid cymryd camau cyflym i’w adnabod yn gywir, ei atal rhag gwaethygu ac yna cael gwared â’r clefyd yn gyfan gwbl.”

Esboniodd Christianne Glossop pam fod hyn i gyd mor bwysig ar hyn o bryd i ffermwyr Cymru. “Ar wahân i wella’r sefyllfa sylfaenol ac ansawdd y cynnyrch, gadewch inni feddwl am yr holl drafodaethau a bargeinio masnachol wrth i ni adael yr UE."

“Mae rhoi sicrwydd i’n partneriaid masnachu ein bod o ddifri ynghylch iechyd anifeiliaid yn bwysig eithriadol. Dychmygwch pa mor fanteisiol i’n bargeinio fyddai gallu dangos fod pob ffermwr da byw yng Nghymru yn cynllunio iechyd trwy ddulliau gweithredol, gyda’r ffermwr a’r milfeddyg yn gweithio gyda’i gilydd. Byddai hynny’n fanteisiol dros ben,” meddai.

Bu Dr Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC, yn esbonio i'r gynulleidfa rithwir beth yw’r strwythur cymorth y prosiect Stoc+. “Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid trwy wneud cynhyrchu yn fwy effeithlon a chynaliadwy."

“Mae prosiect HCC yn dod â hyd at 500 o ddiadelloedd a buchesi o bob rhan o Gymru at ei gilydd er mwyn gwella cynllunio iechyd, cynyddu enillion a datblygu busnes; gwella’n fwyfwy y safonau lles sydd eisoes yn uchel a chynyddu hyder y defnyddwyr,” meddai.

Mae Stoc+ yn brosiect dros gyfnod o bum mlynedd sy’n rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.