Poly tunnel

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor.  

Y llynedd, cafodd mwy na 500 o fannau gwyrdd eu creu, adfer a gwella ledled y wlad. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob maint ran - o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr. 

Nawr, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae yna cannoedd yn rhagor o becynnau ar gael. Dyma eich cyfle i wyrdroi dirywiad natur a rhoi hwb pwysig i lesiant eich cymuned leol ar yr un pryd. 

Mae pob pecyn, y mae ei gost wedi'i thalu ymlaen llaw, yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill. Bydd Cadw Cymru'n Daclus yn ymdrin ag archebion a danfoniadau, a bydd swyddogion prosiect yn darparu cymorth ar lawr gwlad.  

Mae ein pecynnau yn perthyn i ddau gategori:

  1. Pecynnau dechreuol i grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy'n dymuno creu Gardd i Beillwyr, Gardd Ffrwythau a Pherlysiau, neu Ardd Drefol.
  2. Pecynnau datblygu i sefydliadau cymunedol sy'n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt. 

Yn 2021-22, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd difreintiedig, trefol nad oes ganddynt fynediad at natur neu sydd â mynediad cyfyngedig at natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru. 

Mae'n broses ymgeisio syml. Ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a dadlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais.

Rydyn ni'n disgwyl i becynnau fynd yn gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael eich cais i mewn yn fuan!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur - e-bostiwch nature@keepwalestidy.cymru

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.