grŵp o blant yn yr ardal natur

Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn falch o gyhoeddi eu bod yn cefnogi'r prosiect Ardal Natur ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored a gyflwynir gan Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt. Mae'r bartneriaeth wedi llwyddo i neilltuo gwerth £5,000 o gyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Meddai Hamish Osborn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe,

"Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol yn falch o fod yn cefnogi'r prosiect Ardal Natur ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored. Rydym yn gweld bod gwerth mewn datblygu lleoedd a fydd yn annog bioamrywiaeth yn ogystal â darparu offeryn dysgu gwerthfawr i'n cenhedlaeth iau, er mwyn iddynt ennill dealltwriaeth o bwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd.”

Mae'r prosiect Ardal Natur ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn ymateb i ddisgyblion Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt a'r gymuned sydd am annog dysgu yn yr awyr agored, drwy greu ardal natur ddynodedig y gellir ei ddefnyddio bob dydd fel ardal weithio i blant.  

Bydd yr ysgol yn cyfrannu at nodau Strategaeth Cyflwyno Lleol Abertawe drwy wella iechyd, cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth; lleihau eu hôl troed carbon; ac, yn hanfodol, wella gwybodaeth a dealltwriaeth o'n hamgylchedd lleol.  

Meddai John Owen, Pennaeth Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt,

"Mae'r ysgol wrth ei bodd am ei bod wedi llwyddo yn ei chais am grant gan y PDG. Caiff yr arian ei ddefnyddio i drawsnewid cornel o diroedd yr ysgol, sy'n aflêr iawn ar hyn o bryd, yn ardal natur i'r plant weithio a dysgu ynddi.  Wrth i dechnoleg ymyrryd mwyfwy ym mywydau pawb, mae'n hanfodol bod plant yn dod i gysylltiad â'r awyr agored. Gobeithiwn dros nifer o flynyddoedd, y bydd cannoedd o blant yn elwa o hyn ac yn datblygu cariad at natur y byddant yn ei gadw wrth dyfu'n oedolion.”

Am ragor o wybodaeth am Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe a phrosiectau cysylltiedig neu gefnogaeth ariannol, e-bostiwch Dîm PDG Abertawe drwy e-bostio rdpLeader@abertawe.gov.uk