Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe'n falch o gyhoeddi ei chefnogaeth ar gyfer prosiect Big Meadow CSA a gyflwynir gan brosiect Cae Tân. Mae'r Bartneriaeth wedi dyrannu £30,000 o gyllid yn llwyddiannus trwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Meddai Hamish Osborn, o Gyfoeth Naturiol Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe,
"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r prosiect hwn. Bydd Big Meadow CSA yn ffermio mewn ffordd sy'n ystyriol o natur i ddarparu cyflogaeth a bwyd o safon i bobl leol.”
Mae Big Meadow CSA yn gynllun Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) arloesol sydd wedi'i gyfuno â rhaglen breswyl (Surf N Turf), a bydd yn ymgysylltu â chymunedau gwledig ar draws Gŵyr i ddarparu bocsys di-blastig â llysiau lleol yn uniongyrchol i 50 o aelwydydd.
Bydd y prosiect yn Llangynydd yn creu cynllun cynhyrchu bwyd cyffrous a chynaliadwy gyda chyfleoedd gwirfoddoli cyson a chymaint o gyfranogaeth gymunedol â phosib. Bydd Surf N Turf yn dod â grwpiau o bob rhan o Gymru a'r DU i brofi'r prosiect CSA ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau y gellir eu cynnig yn ardal Gŵyr, e.e. caiacio, dringo.
Gall treulio amser yn yr awyr agored a bod yn actif mewn amgylchedd naturiol gael effaith go iawn ac arwyddocaol ar fywydau pobl.
Mae'r prosiect hwn wedi llwyddo i sicrhau £30,000 o gefnogaeth ariannol RhDG.
Meddai Abbi Mason o Big Meadow CSA, a gefnogir gan brosiect Cae Tân,
"Bydd cyllid RhDG yn cael effaith enfawr ar lwyddiant tymor hir Big Meadow CSA. Bydd yr arian a sicrhawyd yn ein galluogi i ddatblygu menter gymdeithasol sy'n diwallu anghenion y gymuned leol, yn darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr ac yn darparu llysiau heb eu pecynnu'n wythnosol. Byddwn yn cynnal peilot o'r rhaglen Surf N Turf, sy'n ceisio darparu rhaglen breswyl i bobl ifanc a phobl anghenus ac sy'n rhoi cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol trwy ymgysylltu ag AoHNE Gŵyr."