Person ifanc yn dyfrio glasbren newydd

Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe'n falch o gyhoeddi ei bod yn cefnogi'r prosiect Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig a gyflwynir gan Down to Earth. Mae'r Bartneriaeth wedi llwyddo i glustnodi £29,750 o gyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Meddai Hamish Osborn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe,

"Mae'r prosiect Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig yn addo bod yn gyfle gwych i breswylwyr lleol gymryd rhan yn y prosiect a dysgu am ddatblygiad tirwedd ddiwylliannol Abertawe drwy ymagwedd ddatblygedig at arddio, a fydd yn cefnogi dealltwriaeth ac yn gwella bioamrywiaeth."

Bydd y prosiect Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig yn datblygu cysylltiadau cymunedol cryf â phreswylwyr yn Llandeilo Ferwallt a Gŵyr, yn ogystal â'r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar draws y sir drwy eu helpu i greu gardd goedwig ym Murton, Gŵyr. Bydd yr ardd goedwig yn rhannu bwyd organig hyfryd a dulliau ar gyfer tyfu bwyd yn gynaliadwy. Bydd y prosiect hefyd yn gwella iechyd a lles y rheini sy'n gwirfoddoli yn yr ardd goedwig.
 

Birdseye view of the community forest garden

Bydd y prosiect yn cyfrannu at nodau Strategaeth Cyflawni Leol Abertawe drwy wella iechyd a lles a chynnal a gwella bioamrywiaeth; cymryd camau i leihau eu hôl troed carbon; tyfu bwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n gynaliadwy; gwella sgiliau rheoli tir, lleihau ac ailddefnyddio gwastraff.

Meddai Chris Dow, rheolwr prosiect yn Down to Earth,

"Rydym wrth ein boddau bod ein prosiect Gardd Goedwig i wirfoddolwyr yn cael ei ariannu. Drwy'r prosiect hwn rydym am gefnogi'r gymuned leol a gwella iechyd a lles drwy dyfu bwyd yn gynaliadwy ar ein safle prydferth ym mhenrhyn Gŵyr."

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe a'i phrosiectau cysylltiedig, neu i gael cymorth ariannu, cysylltwch â Thîm PDG Abertawe drwy e-bostio rdpleader@abertawe.gov.uk