Working with Snowdonia Society volunteers - Dan Struthers Photography copyright
Working with Snowdonia Society volunteers - Dan Struthers Photography copyright

 

Mae ein mawndiroedd yn gweithredu fel storfa garbon anferth; ond ar orgorsydd Llwytmor a Foel-Grach ar y Carneddau, mae peryg i erydiad ar raddfa helaeth ryddhau llawer iawn o garbon i’n hatmosffer a’n cyrsiau dŵr. Yn awr, diolch i arian Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru a chydweithrediad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Porwyr Aber a Llanfairfechan, mae gwaith adfer mawndir ar fin cychwyn ar y safle.

Dim ond 3% o arwyneb y ddaear sydd wedi ei orchuddio â mawndir, ond eto maent yn cynnwys mwy na dwywaith y carbon sy’n cael ei storio yn holl goedwigoedd y byd! Mae tua 30% o fawndiroedd Cymru ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gyda dros 25,000 hectar o fawn, a thua 17 miliwn tunnell o garbon. Mae’r mwyafrif llethol o’r cynefinoedd hyn yn fathau prin o fawndir yn fyd-eang: ‘gorgorsydd’ (mawndiroedd ucheldir sy’n gorchuddio’r llechweddau).

Ceir tua 3500 hectar o’r cynefinoedd mawndirol yma rhwng copaon y Carneddau yng ngogledd Eryri, gyda gorgorsydd eang ar lethrau Llwytmor a Foel-Grach. Yn hanesyddol, mae’r mawndiroedd yma wedi eu pori’n ddwys sydd, wedi ei gyfuno â draeniad naturiol oddi ar y mynyddoedd, wedi arwain at erydiad sylweddol a cholled carbon. Mae torlannau mawn mawr – sef ffurfiannau moel tebyg i glogwyni sy’n datgelu’r mawn oddi tano, wedi ffurfio ar y gorgorsydd, gan ddraenio’r mawn ac achosi gollyngiad anferth o nwyon tŷ gwydr.

Y dyddiau hyn, mae llawer llai o bori ar dirweddau mynyddig y Carneddau, gydag amddiffyniadau ar gyfer cynefinoedd mynyddig ac, wrth gwrs, merlod eiconig y Carneddau. Fodd bynnag, heb weithredu pellach i wrthdroi effeithiau’r erydiad, bydd y mawndiroedd hyn yn parhau i ddirywio. Llwytmor yw un o ardaloedd mwyaf y Carneddau o fawndir wedi erydu, felly y gaeaf hwn, bydd gwaith yn mynd rhagddo i annog adferiad llystyfiant mewn ardaloedd bregus, arafu llif dŵr ac adfer y mawndir. Bydd y gwaith yn lleihau’r gollyngiad nwyon tŷ gwydr yn ogystal â gwella storiad dŵr yn y mawndir amgylchynnol.

Mae mawndiroedd hefyd yn storfeydd gwerthfawr o wybodaeth gan fod paill a microffosilau wedi eu cadw yn y mawn yn dweud wrthym am hinsoddau a llystyfiant y gorffennol, a sut maent wedi siapio ein tirwedd. Dan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru a gwaith yn y dyfodol gan Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau bydd y mawndiroedd hyn yn cael eu hadfer, nid er mwyn lleihau gollyngiad nwyon tŷ gwydr yn unig, ond hefyd er mwyn diogelu tystiolaeth o ffurfiant ein tirwedd.

Meddai Gareth Jones, Cadeirydd Cymdeithas Porwyr Aber a Llanfairfechan:

“Rydym fel Cymdeithas Porwyr yn hynod falch o gefnogi’r cynllun adfer mawndir sydd ar gychwyn ar Llwytmor. Nid yn unig oherwydd pwysigrwydd adfer mawndiroedd fel storfeydd carbon i warchod yr amgylchedd, ond hefyd er mwyn diogelu’r dirwedd sy’n gynefin pwysig i fioamrywiaeth, heb anghofio merlod gwyllt y Carneddau sy’n trigo yno.”

Eglurodd Rachel Harvey, swyddog gogledd Cymru Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru:

“Mae mawndiroedd i fod yn fannau hynod o wlyb: nid oes ocsigen mewn priddoedd gwlyb i blanhigion bydru, a dyma sut mae ein mawndiroedd wedi dal cymaint o garbon dros y milenia. Ar ôl cyfnodau o ddraenio mawndiroedd a difrod, mae storfa anferth o garbon yn awr yn pydru ac yn cael ei ryddhau mewn mesurau anferth fel nwyon tŷ gwydr. Trwy adfer ein mawndiroedd, rydym yn ymdrechu i’w hail-wlypu er mwyn rhwystro’r golled anferth hon o garbon.”

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Eryri a Llŷn, Trystan Edwards:

“Fel elusen cadwraeth, rydym yn adfer cynefinoedd naturiol er mwyn creu tirweddau iach, gwydn, ac yn canolbwyntio'n benodol ar gyrsiau dŵr glân, naturiol.   Rydym wedi gallu rhannu gwybodaeth o waith adferol tebyg ar Y Migneint yn nalgylch Uwch Conwy.  Trwy'r prosiect SMS, rydym yn cyd-weithio i gyflawni'r gwaith adfer yma ar y Carneddau.”

Mae Cynllun Rheolaeth Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru yn brosiect partneriaeth Cymru gyfan, dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac wedi ei ariannu trwy ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig cymru 2014-2020’, a ariennir trwy Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Adfer mawndiroedd: Ailbroffilio "Hagg"