Logo Megan a'r Criw Bwyd

Mae prosiect CETMA, ‘Megan a’r Criw Bwyd’, wedi llwyddo i dderbyn cyllid cyllid gan RDP (Cynllun Datblygu Gwledig) Sir Gâr a’i Raglen Arweinydd/Leader.

Wedi'i ariannu trwy'r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru (2014-2020), nod y rhaglen LEADER yw cynorthwyo pobl, busnesau a chymunedau lleol i gymryd rhan yn y broses o ddarparu atebion cynaliadwy ond arloesol fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu ardaloedd gwledig.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r rhaglen LEADER yn cael ei rheoli gan Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) y Grŵp Cefn Gwlad, sydd wedi datblygu strategaeth a fydd yn darparu'r fframwaith ar gyfer gweithgaredd LEADER yn y Sir.

Bydd y prosiect o fudd i gymunedau Cydweli, Llanismel, Pen-bre, Trimsaran, Llangyndeyrn a’r Hendy. Dywedodd Swyddog y Prosiect, Laura Williams:

“Mae Megan a’r Criw Bwyd yn creu ffordd i deuluoedd ddysgu am dyfu bwyd a bwyta’n dda.

“Mae Megan yn ferch wyth oed sydd eisiau dysgu am dyfu bwyd, bwyd gwastraff a bwyta’n iach.”

Fel rhan o’r prosiect, crëwyd sawl cymeriad sy’n ffurfio criw bwyd Megan, sef:

  • Tomos y Tomato sy’n goch ac yn grwn. Canu a chwarae trwy’r dydd y mae hwn.
  • Mae Lewys Genhinen yn dal a golygus. Mae bwyta cawl cennin yn gwneud pob bol yn hapus!
  • Afon yr Afal sy’n wyrdd ac yn goch. Yn wyrdd fel ynni, ac yn goch ar bob boch!
  • Mae Siân y Fefusen yn bert ond yn ffôl. Pan ddechreua hi ddawnsio, mae’n gadael pawb ar ei hôl.
  • Mae Gwen y Rawnwinen am helpu a dysgu – mae hi’n brysur bob munud pan nad yw hi’n cysgu.
  • Mae Carwyn Foronen yn llachar a chryf. Mae’n ’nabod pob dawns – a chaneuon di-rif.

“Byddwn yn cynnig syniadau, awgrymiadau a ryseitiau i bobl, yn eu helpu i wastraffu llai o fwyd ac i fwyta'n iach.

“Bydd Megan yn mynd ati’n frwd i dyfu bwyd, gan bostio lluniau, cynnal vlog a hyrwyddo popeth y mae hi’n ei wneud,”

Ychwanegodd Laura.