Winners Announcement Image 2019

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cydweithio eleni eto o ganlyniad i lwyddiant y wobr yn 2017. Cyfle unigryw ar gyfer Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mewn ymgais i annog y genhedlaeth nesaf o ffermwyr feddwl am y farchnad am foch fel opsiwn arallgyfeirio hyfyw, mae chwe aelod CFfI Cymru wedi cael eu gwobrwyo a 6 mochyn fel cam cyntaf i’r diwydiant moch.

Mae’r fenter  mewn partneriaeth rhwng CFfI Cymru a Menter Moch yn cael eu hariannu gan Gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen 2014-20 sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd a’r llywodraeth Cymraeg.

Cyhoeddwyd y canlyniad yn dderbyniad y Cadeirydd yn Sioe Frenhinol  Cymru a’r enillwyr oedd Rhiannon Davies CFfI Caerwedros, Guto Pryderi Huws CFfI Prysor ac Eden, Elin Childs CFfI Llanfynydd, Betsan Fflur Williams CFfI Hermon, Elin Haf Williams CFfI Bro Ddyfi  a  Chris Ludgate CFfI Capel Iwan.

Nododd Hefin Jones, Materion Gwledig CFfI Cymru “Mae’n fraint i CFfI Cymru weithio gyda Menter Moch Cymru ar y fenter i helpu ein haelodau ddechrau busnes newydd yn enwedig yng nghyfnod o ansicrwydd gyda Brexit.”

Wedi clywed am ei lwyddiant dwedodd Elin Haf Williams “Rwy’n hapus iawn o gael fy newis. Dwi’n meddwl ei fod yn gyfle gwych a dwi’n methu aros i dderbyn y moch a dechrau’r hyfforddiant.”

Lansiwyd y gystadleuaeth yn niwrnod gwaith maes CFfI Cymru ar ddiwedd mis Ebrill i ddod o hyd i 6 bridiwr moch newydd. Roedd y broses yn cynnwys cais ysgrifenedig ac ymweliad fferm lle'r oedd asesiad ar y fferm. Roedd y beirniaid wedi’u plesio gan safon y ceisiadau a chafwyd dipyn o her i ddewis y chwech olaf.

Fel rhan o’r wobr bydd Menter Moch Cymru yn rhoi hyfforddiant i ddechrau gyda sesiwn hyfforddi ar fore Dydd Iau'r Sioe Frenhinol. Y sesiwn fydd y cyflwyniad cyntaf i drafod moch a pharatoi ar gyfer sioe ac arddangos, rhywbeth y byddant yn gwneud ei hunan yn y Ffair Aeaf yn hwyrach yn y flwyddyn, diolch i gefnogaeth Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru. Fel ychwanegiad at y gystadleuaeth mi fydd dosbarth arbennig yn y Ffair Aeaf i ddangos ei hymdrechion a chymharu cwblhad y moch yn erbyn ei gilydd.

Cyn hynny, mi fyddant yn mynychu diwrnod hyfforddiant yng ngholeg Meirion Dwyfor Glynllifon lle byddant yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol i fagu ei moch, i’w ddilyn gan sesiynau hyfforddiant ychwanegol drwy’r flwyddyn. Gan fod y beirniaid wedi’u plesio gymaint gan safon y ceisiadau, mae’r hyfforddiant yn cael ei agor i’r holl aelodau a geisiodd. 

Bydd Menter Moch Cymru hefyd yn helpu’r enillwyr i farchnata porc ac yn cefnogi a hyfforddi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd yn angenrheidiol i’r fenter newydd hon. Bydd y sgiliau caiff yr aelodau o ganlyniad i’r gystadleuaeth yn werthfawr ac yn ddefnyddiol i nifer o fentrau ar y fferm.


“Mae Menter Moch Cymru yn falch o gydweithio gyda CFfI Cymru eto ar y cyfle unigryw yma” meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect, Menter Moch Cymru.

“Mae’n galondid gweld bod brwdfrydedd a diddordeb yn y sector moch yma yng Nghymru, yn enwedig yn ystod cyfnod cythryblus i’r diwydiant amaeth. Mae’r fenter wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol, yn ganlyniad mewn ffermydd yn arallgyfeirio a busnesau newydd yn cael eu dechrau. Eleni rydym wedi codi’r nifer o enillwyr o bedwar i chwech, i alluogi mwy o gyfle i gymryd rhan. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chefnogi'r enillwyr gyda’r fenter newydd. “

Mi fydd y gystadleuaeth yn dod i derfyn ar ddiwedd y flwyddyn yn Ffair Aeaf gyda dosbarth Moch ar gyfer ein haelodau.