Teleri Evans

Ydych chi yn aelod o Glwb ffermwyr Ifanc, yn angerddol am fagu moch, ac yn chwilio am y cyfle i arallgyfeirio? Os felly beth am edrych ar y cynllun Pesgi Moch blynyddol, cynllun ar y cyd rhwng Menter Moch Cymru a CFFi Cymru. Mae’r Cynllun yn anelu i annog y genhedlaeth nesaf i fagu moch yma yng Nghymru 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i aelodau CFFI Cymru ac yn gyfle unigryw i annog pobl ifanc i’r posibilrwydd o gadw moch yng Nghymru.

Bydd chwe enillydd yn cael eu dewis, a byddant yn derbyn pum mochyn yr un i’w magu.  Bydd pob un cystadleuydd hefyd yn cael eu cefnogi gyda rhaglen hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau angenrheidiol i sefydlu’r a rheoli’r fenter newydd hon. Bydd y rhaglen hyfforddiant yn cynnwys lles a gofalu am foch, deddfwriaeth, bwyd anifeiliaid a maeth gyda hyfforddiant ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal bydd cefnogaeth a sesiynau mentora ar gyfer y cystadleuwyr gan arbenigwyr o’r sector foch. 

Uchafbwynt y prosiect yw’r gallu i gymryd rhan mewn dosbarth newydd ac unigryw ar gyfer moch yn y Ffair Aeaf lle byddant yn arddangos un o’r moch a ddarparwyd ac yn cystadlu yn erbyn y lleill i ennill teitl y mochyn gorau wedi’i besgi. 

Dywedodd enillydd cystadleuaeth y llynedd Teleri Evans, ffarmwr ifanc o Geredigion ac aelod CFFI Pontsian ei bod yn annog pawb sydd a diddordeb i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma.

“Yr uchafbwynt imi oedd ennill y ddau ddosbarth a’r gystadleuaeth yn ei gyfanrwydd.  Mi wnes i roi llawer iawn o waith i’r cynllun ond roedd werth pob munud ar y diwedd. Mi wnes i fwynhau pob agwedd o weld y moch bach yn tyfu, ac roedd gweld y cynnyrch ar y diwedd yn y bocsys yn deimlad arbennig a chael adborth cadarnhaol gan y cyhoedd.”

“Ers cymryd rhan yn y cynllun dwi wedi parhau i gadw moch ac mae’r busnes yn tyfu, ac erbyn heddiw mi rydan ni wedi cychwyn gwerthu cynnyrch wedi eu coginio sef ffagots ac yn gobeithio bydd mwy o gynnyrch ar gael yn fuan,” ychwanegodd.

Mae Menter Moch Cymru yn fenter sy’n anelu at ddatblygu’r Sector moch yng Nghymru. Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru:

“Mae Menter Moch Cymru yn falch i gael cyd-weithio gyda CFFI Cymru dros y pedair blynedd ddiwethaf ar y cynllun unigryw, arbennig yma ar gyfer eu haelodau.”

Ychwanegodd Cadeirydd CFFI Cymru Katie Davies: “Mae CFFI Cymru yn ddiolchgar iawn i Menter Moch Cymru am y cyfle arbennig yma i’w haelodau ac am y cyfle i fagu sgiliau gwahanol.  Sgiliau a fydd yn ei galluogi i ddatblygu eu sgiliau entrepreneraidd wrth ddatblygu'r diwydiant moch yma yng Nghymru.” 

Mae cyn-gystadleuwyr yn annog aelodau o CFFI Cymru I geisio am y gystadleuaeth. 

Dywedodd Angharad Thomas o CFFI Ddyffryn Tywi bod cymryd rhan yn y cynllun wedi bod yn brofiad positif ac wedi rhoi’r cyfle iddi gychwyn mewn busnes.

“Heb unrhyw amheuaeth, os oes unrhyw aelod CFFI a diddordeb, lle mewn sied, neu gae, cerwch amdani.  Peidiwch â meddwl ddwywaith am y peth.  Mae’r profiad wedi bod yn werthfawr iawn, a heb y cyfle yma ni fyddwn wedi cael yr hunan hyder i gychwyn busnes o werthu bocsys cig.  Dwi’n ddiolchgar iawn i Menter Moch Cymru a CFFI Cymru am y cyfle.”

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am 10 y bore ar yr 28ain o Fai 2021.

Gall moch gael eu cadw mewn gwahanol system rheoli, gall systemau tu fewn neu systemau tu allan gael ei hystyried a gall sicrhau incwm ychwanegol i’r fferm.

Efallai bod gan lawer o ffermydd adeilad addas neu ddarn o dir sydd ddim yn cael gwir ddefnyddio a all gael ei newid ar gyfer cadw moch, heb lawer iawn o fuddsoddiad, ac yn hynny sicrhau incwm ychwanegol i’r fferm.

Am fanylion ychwanegol neu am ffurflen gais beth am ymweld a gwefan www.mentermochcymru.co.uk