Mae prosiect Menter Moch Cymru, sydd wedi ei ddatblygu a’i redeg gan Menter a Busnes, yn parhau i fod â rhesymeg gref, yn cefnogi creu swyddi ac yn dangos effaith bositif eang ar y sector foch yma yng Nghymru. Amlygwyd hyn yng ngwerthusiad canol tymor y prosiect.

Cafodd y gwerthusiad annibynnol ei gyflawni gan Brookdale Consulting. Roedd yn cynnwys adolygiad trylwyr o berfformiad y prosiect, sesiynau grŵp ffocws ac arolwg o fuddiolwyr, ymgynghorwyr rhanddeiliaid ac asesiadau effaith Menter Moch Cymru.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Canfu’r gwerthusiad bod y prosiect eisoes wedi rhagori ar yr holl dargedau yn y rhan fwyaf o feysydd yn y cam interim, gyda pherfformiad y prosiect ymhell ar y blaen. Hefyd, bod y prosiect Menter Moch Cymru yn parhau i fod â rhesymeg gref a pholisi da.

Yn ôl yr adroddiad, “Mae cadw moch yn darparu cyfleoedd arallgyfeirio a all helpu cynhyrchwyr yng Nghymru i wella eu hyfywedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ymadawiad y DU o Ewrop weld taliadau cymhorthdal uniongyrchol i ffermwyr Cymru yn cael eu diddymu'n raddol. Mae galw mawr parhaus am gynhyrchion cig moch yng Nghymru, yn enwedig cynhyrchion crefftus/lleol.”

Amlygodd mynychwyr y grwpiau ffocws lawer o fuddion y prosiect, a oedd yn cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio, cymorth a chyngor anffurfiol, mynediad at gymorth arall, buddion ariannol o wella cadw moch, dal dwylo ar gyfer newydd-ddyfodiaid, gwella hyfywedd menter fferm a gwella cynaliadwyedd ariannol lladd-dai lleol.

Nododd Brookdale Consulting hefyd yn eu hadroddiad fod Menter Moch Cymru wedi cynyddu nifer y cyfranogwyr a elwodd o gefnogaeth i 53% o'i waelodlin. Ac ar adeg yr adolygiad, roeddent wedi cyflwyno 102 o ddigwyddiadau (y mwyafrif ohonynt am ddim i fusnesau) gyda 512 o gyfranogwyr ar draws 397 o fusnesau yn cronni i dros 4,412 awr o hyfforddiant. 

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod Menter Moch Cymru yn cynnal digwyddiadau cymeradwy iawn o ansawdd uchel, sydd o ddiddordeb i gynhyrchwyr ac sy’n denu nifer fawr o fynychwyr. Mae cyfrannau uchel o'r rhai sy'n mynychu yn bwriadu newid eu harferion busnes ac yn disgwyl i'r wybodaeth y maent wedi ei gaffael gael effaith gadarnhaol ar eu busnes."

Ychwanegodd Brookdale Consulting:

“Amlygodd yr arolwg o fuddiolwyr fod 44% o fusnesau wedi’u sefydlu yn ystod oes Menter Moch Cymru. Mae hyn yn anarferol mewn byd amaethyddol lle mae’r mwyafrif o fusnesau wedi hen sefydlu ac yn dangos tystiolaeth bod effaith Menter Moch Cymru wedi creu busnesau newydd."

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Moch Cymru: “Mae canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol hwn yn galonogol iawn gan ei fod yn dangos ymdrechion y tîm a Menter a Busnes wrth gefnogi a datblygu’r sector moch yng Nghymru ond yn bwysicaf oll, mae’n dangos yr effaith gadarnhaol eang y mae'r prosiect yn ei chael yn glir."

“Mae'r prosiect yn gweithio gyda phob rhan o'r sector ac mae'n wych derbyn adborth gan y diwydiant cyfan, gan ddangos bod y prosiect yn amlwg yn cyflawni ei nod ac yn helpu busnesau ledled Cymru – rhai newydd a sefydledig."

Yn wreiddiol, rhedodd y prosiect fel peilot nes sicrhau cyllid ychwanegol i ganiatáu iddo barhau tan fis Rhagfyr 2022. Bydd y gwerthusiad terfynol yn digwydd ar ddiwedd y prosiect.