Arwydd bioddiogelwch ynghlwm wrth gât

Bydd ymarfer ledled y DU i efelychu toriad o Clwy Affricanaidd y Moch (ASF) yn digwydd heddiw (Dydd Iau'r 22ain o Orffennaf) I brofi’r cynlluniau sydd wrth gefn i ddal a dileu’r afiechyd pe bai’n cyrraedd y DU.

Bydd yr ymarfer sydd yn dod dan yr enw “Exercise Holly” yn gweld Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn gweithio gyda’i gilydd i brofi a datblygu cynllun wrth gefn y DU. 

Mae'r ymarfer yn cymryd arwyddocâd ychwanegol yr wythnos hon gan fod y firws wedi'i ganfod mewn moch domestig yn yr Almaen am y tro cyntaf.

Mae ASF yn glefyd heintus iawn sydd yn effeithio ar foch ond nid oes unrhyw fygythiad i iechyd pobl. Mae'r afiechyd wedi cael effaith ddinistriol ar gynhyrchu moch yn Tsieina a'r Dwyrain Pell ac mae hefyd yn symud o ddwyrain Ewrop tuag at y gorllewin, mae bellach yn bresennol yng Ngwlad Belg. Mae'r afiechyd yn lledaenu o fochyn i fochyn ond gall moch hefyd gael eu heintio o gynhyrchion cig moch halogedig.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd pedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU

“Mae'r risg y bydd ASF yn cyrraedd y DU yn bresennol erioed a byddai'n cael effaith ddinistriol ar ein moch a'n ceidwaid moch pe bai yn cyrraedd ein glannau. Rydym yn profi ein cynlluniau wrth gefn yn rheolaidd fel hyn i sicrhau ein bod yn barod i ymateb i achosion posibl o glefydau yn y dyfodol.”

Mae Menter Moch Cymru wedi bod yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ymarfer rhithiol, Exercise Holly a fydd yn cychwyn heddiw ar ddydd Iau 22ain o Orffennaf ac yn cloi ar ddydd Gwener Gorffennaf 23ain. Llwyddodd prosiect Menter Moch Cymru i roi manylion maint a strwythur y sector foch yma yng Nghymru ac awgrymu'r ffactorau risg posibl ar gyfer cyflwyno ASF.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru:

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r Llywodraeth i baratoi ar gyfer yr ymarfer pwysig hwn. Mae hwn yn glefyd difrifol iawn, sydd yn gallu arwain at oblygiadau trychinebus i'r sector. Felly mae'n hanfodol bod pob ceidwad moch yn aros yn wyliadwrus, yn ymwybodol o'r symptomau, ac yn gwybod pryd i gysylltu gyda'u milfeddyg os ydyn nhw'n ansicr.”

Mae mwy o wybodaeth am ASF ar gael ar wefannau Menter Moch Cymru a gwefannau Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, mae'r Menter Moch Cymru hefyd wedi cynhyrchu taflen ffeithiau defnyddiol ar yr holl afiechydon hysbysadwy mewn moch, sy'n cynnwys manylion ASF. 

“Mae hwn yn gyfle da i atgoffa holl ffermwyr moch Cymru o bwysigrwydd bioddiogelwch a'r perygl o fwydo unrhyw beth a allai fod wedi'i halogi â chig neu unrhyw gynnyrch anifail arall. Dyma pam mae bwydo gwastraff cegin i foch yn anghyfreithlon. 

“Mae posibilrwydd hefyd y bydd aelodau'r cyhoedd yn bwydo moch awyr agored heb fod yn ymwybodol o'r risg ASF. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â hyn, mae Menter Moch Cymru yn darparu 

arwyddion ymgynghorol am ddim i geidwaid moch eu defnyddio i hyrwyddo bioddiogelwch a dweud wrth aelodau’r cyhoedd i beidio â bwydo unrhyw beth i foch.”

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.