Mae cynhyrchwyr moch sy’n barod i ddatblygu eu mentrau i’r lefel nesaf wedi bod yn manteisio ar gyfres o gyrsiau cigyddiaeth a drefnwyd gan Menter Moch Cymru (MMC).
Mae’r cyrsiau ymarferol, sydd wedi’u teilwra i ofynion cynhyrchwyr moch yng Nghymru, wedi galluogi mynychwyr i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch a dysgu sgiliau newydd a fydd o fudd i’w busnesau.
O gyrsiau ‘Cigyddiaeth Moch Ymarferol’, ‘Halltu a Gwneud Selsig’ i ‘Charcuterie i Ddecrheuwyr’, mae’r prosiect wedi cynnal nifer o sesiynau ledled Cymru fel rhan o’i ymrwymiad i sicrhau mynediad i hyfforddiant arbenigol ar gyfer cynhyrchwyr moch.
Un enghraifft benodol o sut mae busnes wedi derbyn cefnogaeth gan y prosiect yw Forest Coalpit Farm. Pan symudodd Kyle Holford a Lauren Smith o Lundain i fferm Forest Coalpit ger Y Fenni yn 2015, roedd ganddynt ddiddordeb brwd mewn bwyd, ond nid oedd ganddynt unrhyw brofiad amaethyddol.
Erbyn hyn, gyda hyfforddiant a chyngor gan MMC, mae’r pâr wedi sefydlu menter ffyniannus gyda nifer gynyddol o gwsmeriaid ar gyfer eu porc arobryn - ac fe lwyddodd y pâr i ennill gwobr Great Taste yn 2018.
Mae Kyle yn awyddus i ddysgu gan eraill, ac mae wedi mynychu nifer o deithiau astudio a chyrsiau a drefnwyd gan MMC, gan gynnwys:
- AI ymarferol ar gyfer moch
- Pesgi moch
- Cynllunio iechyd
- Maeth moch
- Cynyddu goroesiad perchyll
- Tystysgrif gymhwysedd ar gyfer diogelu lles moch yn ystod cludiant
Yn dilyn cwrs Cigyddiaeth a Halltu Cig a gynhaliwyd gan MMC yng Nghanolfan Bwyd Horeb, agorodd Kyle a Lauren eu huned brosesu eu hunain ar y fferm. Maent bellach yn prosesu’r cig a gynhyrchir o’u cenfaint o foch Du Mawr x Duroc, neu’r ‘Moch Duon Cymreig’, sy’n rhydd i grwydro 20 erw o borfeydd a choetiroedd y fferm.
Ar hyn o bryd, mae naw mochyn yr wythnos yn cael eu hanfon i’r lladd-dy bach lleol. Mae rhai’n cael eu gwerthu i gyfanwerthwyr gyda phedwar mochyn yr wythnos ar gyfartaledd yn cael ei brosesu gan Lauren yn y safle cigyddiaeth a’u gwerthu i fwytai dros y we.
Dywed Kyle, "Trwy Menter Moch Cymru rydw i wedi gallu dysgu sgiliau gwerthfawr gan rai o’r milfeddygon a’r maethegwyr moch gorau yn y wlad sydd wedi fy nghynorthwyo i redeg fferm foch gynhyrchiol, er fy mod yn cadw bridiau moch prin yn yr awyr agored".
Fel rhan o ymrwymiad MMC i ddarparu cefnogaeth barhaus, mae Kyle a Lauren hefyd wedi derbyn ymweliad gan dechnolegydd bwyd i adolygu eu cynnyrch a’u prosesau, darparu cyngor ynglŷn â datblygu cynnyrch newydd ac i brawf flasu rhai o’u cynhyrchion.
Yn dilyn eu hymweliad diweddaraf, dywedodd Lauren, “Does dim yn well na sesiwn un i un gyda thechnolegydd bwyd sy’n gyfarwydd iawn â’u maes - popeth o labelu a phrisio, cigyddiaeth a sychu cig a thueddiadau cwsmeriaid - anhygoel.”
Yn ei dro, mae’r pâr wedi caniatáu i MMC gynnal digwyddiadau ar eu fferm, gan gynnwys taith fferm ar gyfer grŵp o gogyddion o Lundain a helpu milfeddygon Cymru gael profiad ymarferol fel rhan o raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus MMC a Chanolfan Filfeddygol Cymru.
Ychwanegodd Kyle, “Mae’r prosiect MMC yn cynnig ystod o raglenni cefnogaeth sydd wedi bod o fudd mawr i’n busnes. Byddem yn bendant yn annog ffermwyr moch yng Nghymru i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael - mae rhywbeth ar gael i bawb!”
Yn ôl Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Mae Kyle a Lauren yn dangos bod cadw moch yn gallu bod yn ddewis ymarferol, gyda chefnogaeth briodol, p’un a ydych chi’n dymuno arallgyfeirio eich busnes fferm neu’n newydd ddyfodiaid i’r diwydiant ffermio.”
“Mae prosiect Menter Moch Cymru yn cynnig ystod o raglenni cymorth a chyfleoedd hyfforddiant sy’n addas ar gyfer unrhyw fenter moch; boed hynny’n genfaint fechan neu’n uned fasnachol ar raddfa fawr.”
Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 -2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Am ragor o fanylion ynglŷn â Menter Moch Cymru ewch i www.mentermochcymru.co.uk.