Menter Moch training videos

Mae Menter Moch Cymru yn lansio cyfres o fideos hyfforddi byr ar gyfer ffermwyr moch yng Nghymru.

Dros y misoedd nesaf, bydd cyfres o fideos ymarferol byr ar gael ar wefan Menter Moch Cymru (www.mentermochcymru.co.uk) ac ar Facebook.

Bydd y fideos yn trafod pob agwedd ar ffermio moch ac yn cael eu cyflwyno gan wahanol arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y gyfres yn dechrau’r mis hwn gyda fideo ar y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â ffermio moch gyda’r arbenigwr moch, Bob Stevenson.

Bydd y fideos misol sydd i ddod yn canolbwyntio ar ddulliau adnabod, bioddiogelwch, iechyd, magu dan do ac yn yr awyr agored, bridio, geni perchyll, bwydo, trin moch a phrofi perfformiad.

Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, “Gan na allwn gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, mae’r fideos ymarferol yma wedi cael eu paratoi i roi ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth a chyngor i ffermwyr ar wahanol bynciau." 

“Bydd y fideos byr yn cael eu lanlwytho’n rheolaidd tan fis Awst ar wefan a thudalen Facebook Menter Moch Cymru fel y gall ffermwyr moch eu gwylio yn eu hamser eu hunain. Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Menter Moch Cymru a’r adran Hwb Adnoddau ar y wefan.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.