GraffitiWorkshop2-ImagebyCelfCalon

Amplify: Trowch e Lan - prosiect creadigol bywiog gyda phobl ifanc a chreadigrwydd wrth wraidd y cyfan

Mae Mess up the Mess wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Celfyddydau Pontardawe a’u Grŵp Ffrindiau i gyflwyno cyfres o weithgareddau cyffrous a chreadigol i bobl ifanc 11-25 oed.

Daeth Amplify: Trowch e Lan i ben ddechrau mis Medi 2020.  Yn rhan o’r prosiect, mae gweithdai wedi eu cynnal i dros 100 o bobl ifanc yn ardal Pontardawe, a dros 130 o bobl ifanc yn yr ysgolion lleol. Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg ers Hydref 2019 ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Mess up the Mess a Chanolfan y Celfyddydau Pontardawe.

Un o brif elfennau’r prosiect yw bod pobl ifanc wedi chwarae rhan allweddol yn creu, rheoli a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau yn y Ganolfan Celfyddydau.  Mae pobl ifanc wedi cael rhan i fod yn rhan o weithdai creadigol a chyrsiau byr sydd yn cynnwys sain, ffilm, goleuo, marchnata, ysgrifennu a theatr. Maent hefyd wedi cael gweithdai technoleg anffurfiol bob nos Iau i bobl ifanc 14-19 oed.

Cafodd misoedd olaf y prosiect eu cyflwyno arlein oherwydd cyfnod clo Covid-19  Yn ystod y cyfnod yma, mae gweithdai sydd wedi eu cyflwyno yn cynnwys cwrs marchnata, cwrs ffilm, gweithdy arbenigol ar farddoni ar lafar gyda Rufus Mufasa, bocsio bît gyda Dean Yhnell, Chwarae ar Eiriau - digwyddiad ysgrifennu, Amplify Arena - cystadleuaeth gemau arlein, D&D Skyward - digwyddiad Dungeons and Dragons a Platfform Lefel 2 - digwyddiad perfformio byw. 

Un o brif weithgareddau terfynol y prosiect oedd cyfres o weithdai ‘Celf Annisgwyl’ gyda’r artist Leanne Vaughan-Philipps.  Cafodd y bobl ifanc gyfle i greu gweithiau celf i’w arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe, ond wrth gwrs fe wnaeth y cyfnod clo hyn yn amhosib.  Cafodd y gwath ei roi arlein yn lle, ac yna gofynwyd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff ddarn o waith celf.  Gwaith Carys cafodd ei ddewis a sydd nawr yn ysbrydoliaeth i ddarn o gelf graffiti tu allan i’r Ganolfan Celfyddydau gan Lloyd The Graffiti.  Cafodd y bobl ifanc gyfle i fod yn rhan o weithdy celf gyda’r artist graffiti ar y diwrnod creu hefyd.

GraffitiWorkshop-LloydTheGraffiti-ImagebyCelfCalon


Meddai Carys dewiswyd gwaith celf gan y bleidlais gyhoeddus am y prosiect;

GraffitiWorkshop-Carys-ImagebyCelfCalon

“Fi’n hoff iawn o wneud celf a phan wnes i weld y cyfle yma yn ystod y cyfnod clo, wnes i fynd amdani. Cafon ni weithdai arlein dros Zoom a trafod a rhannu syniadau.  Roeddwn i wrth fy modd pan wnaeth fy narn i o waith celf cael ei ddewis, o’n i’n rili hapus achos on i wedi rhoi lot o waith mewn i wneud y darn.  Fy hoff beth am y cwrs oedd gwneud y graffiti gan mod i heb wneud dim felna o’r blaen. Fe ddangosodd yr artist graffiti i ni sut oedd defnyddio technegau gwahanol.  Oedd e’n rili neis gweld y cyfan yn dod at ei gilydd gan bod y darn wedi ei ysbrydoli gan fy ngwaith celf i. On i’n hapus iawn gyda sut wnaeth y cyfan droi mas. Dwi’n dechrau ar gwrs TGAU celf nawr ac yn edrych ymlaen i wneud mwy!”

Meddai Bronwyn, a gymrodd ran yn y prosiect celf;

“Fe wnes i fwynhau’r sesiynau ar-lein i gael cyfle i siarad am y prosiect a rhannu syniadau.Fe wnes i ddau ddarn - colaj ar gyfer dangos gweithwyr y GIG fel arwyr lleol, a llun o fel oeddwn i’n teimlo yn ystod ‘y cyfnod clo a’r hapusrwydd o fynd nôl i’r ysgol.  Fy hoff beth am y prosiect oedd gwneud y colaj, a gweld y gwaith ar y wal ym Mhontardawe!”

Fe wnaeth MJ gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau’r prosiect a meddai;

“Y gweithgareddau wnes i gymryd rhan ynddyn nhw oedd y cwrs sain, cwrs ffilm, cwrs cynllunio digwyddiad a Celf Anisgwyl hefyd. Fe wnes i fwynhau chwarae’r offerynnau ar y cwrs sain a dylunio cynlluniau ar gyfer Celf Annisgwyl.  Y pethau gorau am y prosiect oedd dysgu sgiliau newydd, trio pethau newydd a chyfarfod pobl newydd.”

Meddai Sarah Jones, Cyfarwyddwr Artistig Mess up the Mess;

“Rydym wedi bod wrth ein bodd yn gweithio ar y prosiect yma gyda Chanolfan y Celfyddydau Pontardawe.  Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn bod yn rhan o’r prosiect mewn amrywiaeth o weithdai. Rydym wedi mynd â’r bobl ifanc i weld theatr byw, wedi cael sgyrsiau gwych a rhoi’r cyfle iddynt geisio pethau newydd.  Rydym yn falch o’r ffaith ein bod wedi llwyddo i barhau yn ystod y cyfnod clo, ac mae nawr gweld y gwaith celf yn dod yn fyw a chael cartref tu fas i’r Ganolfan Celfyddydau yn wych.”

Meddai Elizabeth Felton o Ganolfan y Celfyddydau Pontardawe;

“Mae Amplify: Trowch e Lan wedi bod yn brosiect gwych i ni yma yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe ac mae wedi gwneud y ganolfan yn lle mwy croesawgar i bobl ifanc fel eu bod yn teimlo’n rhan o’r hyn sy’n digwydd yma.  Mae’r prosiect wedi bod yn gymorth i ni addasu’r ganolfan i deimlo fel man lle mae pobl ifanc yn gallu dod o hyd i egni creadigol ac edrych ar ôl eu hunan.  Mae’r prosiect wedi eu arwain ar y cyfan gan y bobl ifanc, sydd yn beth prin hefyd. Daeth yr her mwyaf gyda’r cyfnod clo ac roedd yn rhaid i ni gau ein drysau.  Roedd yn anodd gweld ar y pryd sut y gallwn barhau â’r prosiect, ond aeth y cyfan arlein a chyrraedd y bobl ifanc yn yr ardal.  Mae’r amrywiaeth o greadigrwydd mae’r bobl ifanc wedi ei gyflwyno yn wych.  Diolch yn fawr i Mess up the Mess a’r sefydliadau sydd wedi ariannu’r prosiect.”

Ariannwyd y prosiect yma gan raglen LEADER trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sydd yn cael ei ariannu gan y Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiect i bobl ifanc.