Mae'r prosiect Stoc+ wedi derbyn cefnogaeth Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop (chwith) Yn y llun hefyd mae Dr Joe Angell, Milfeddygon Y Wern; Dr Rebekah Stuart, HCC; a Clare Jones, Milfeddygon Dolgellau

Cafodd dros 170 o ffermwyr o bob rhan o Gymru eu dewis i gymryd rhan yn rownd nesaf prosiect cynllunio sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid ac sydd â nod hirdymor o wneud ffermydd yn fwy effeithlon, proffidiol a chynaliadwy. 

Maen nhw’n ymuno â 83 o ffermwyr eraill a gofrestrodd ar ddechrau prosiect Stoc+ ac sydd eisoes wedi dechrau datblygu cynllun iechyd anifeiliaid rhagweithiol ar gyfer eu buchesi a'u diadelloedd. 

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect sy'n rhan o Raglen Datblygu Cig Coch Hybu Cig Cymru (HCC). Nod y rhaglen bum mlynedd yw hybu’r diwydiant a helpu ffermwyr Cymru i baratoi ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit. Cefnogir y rhaglen gan Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Gwahoddwyd ffermwyr i fynegi eu diddordeb yn y prosiect yn ystod cyfnod o bythefnos ym mis Gorffennaf, gan gynnwys yn Sioe Frenhinol Cymru lle trefnodd HCC sgyrsiau addysgiadol gyda’r milfeddygon Dr Joe Angell a Clare Jones. 

Dywedodd Dr Rebekah Stuart, y Swyddog Gweithredol dros Iechyd Diadelloedd a Buchesi yn HCC: “Roeddem wrth ein bodd â’r ymateb a’r diddordeb yn Stoc+ yn ystod y cyfnod diweddaraf o fynegi diddordeb. Mae’n addawol dros ben fod ffermwyr yn awyddus i gymryd rhan er mwyn cynllunio iechyd eu diadelloedd a buchesi yn well. Ni all cynllun iechyd a gafodd ei greu’n ofalus ond bod o fudd i fusnes a helpu'r diwydiant cig coch i fod yn effeithlon wrth gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel sy'n ateb gofynion y defnyddwyr.”

Yn ystod y prosiect, pennir targedau ar y cyd â’r ffermwr i wella statws iechyd y fferm.  Ar ôl i’r ffermwr gytuno â’r rhain, bydd y milfeddyg a HCC yn monitro cynnydd am hyd at dair blynedd drwy ymweld â’r ffermydd yn rheolaidd a chynnig cymorth. 

Ychwanegodd Dr Stuart: “Yn ystod oes y prosiect, ein nod yw ymgysylltu â hyd at 500 o gynhyrchwyr defaid a chig eidion o bob rhan o Gymru, sy'n golygu y bydd cyfleoedd i fwy o ffermwyr gymryd rhan yn y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan HCC: https://bit.ly/2JkFmre