Mae fferm bîff wedi ychwanegu mwy na £100 y pen at eu hincwm o loi teirw sugno, a hynny drwy eu pesgi'n ddwys erbyn 13 mis oed yn lle eu gwerthu fel anifeiliaid stôr.

Oherwydd pwysau yn sgil y cyfyngiadau symud sy’n ceisio atal TB mewn gwartheg, bu’n rhaid i Huw a Meinir Jones ailystyried sut roedden nhw’n magu ac yn gwerthu’r epil o'u buches o 80 o wartheg ar Fferm Bryn, Aberteifi.

Maen nhw’n ffermio mewn ardal lle mae risg TB yn uchel ac yn sgil y risg berthynol y gallai’r clefyd ddigwydd roedd ansicrwydd ynglŷn â chynhyrchu ar gyfer y farchnad gwartheg stôr.

A hwythau’n ffermwyr arddangos ar ran Cyswllt Ffermio, mae Huw a Meinir wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwr bîff a defaid annibynnol, Dr Liz Genever, ar brosiect i fagu 15 o loi teirw’n ddwys.

Cafodd y teirw a anwyd yn y gwanwyn eu gadael heb eu sbaddu, a dechrau eu bwydo ar gymysgedd o borthiant wedi'i brynu a cheirch a haidd wedi'i rolio gartref ym mis Tachwedd 2019.

O'i gymharu â'r £13,980 y byddai'r teirw hyn wedi’i godi fel anifeiliaid stôr, ar ôl cyfrif pris y gwellt a werthwyd a'r porthiant a fwytawyd, fe enillodd Huw a Meinir £1,600 yn ychwanegol drwy eu magu fel teirw.

Yn ystod un o weminarau Cyswllt Ffermio, dywedodd Dr Genever fod y prosiect wedi dangos gwerth dechrau rhoi porthiant i deirw sy'n cael eu magu'n ddwys yn gynt, tra bôn nhw'n dal ar y borfa.

“Mae’n hawdd iawn cyfiawnhau didol-borthi yn y systemau hyn,’’

Meddai Dr Genever.

Ar Fferm Bryn, cafodd y teirw 1.2t y pen o fwyd, o’i gymharu â tharged y diwydiant o 1.7t y pen. Arweiniodd hyn at gyfartaledd pwysau byw adeg eu lladd o 620kg a phwysau cyfartalog ar y bach o 344kg, gyda chanran o 55% yn cael eu lladd.

Roedd y rhain i gyd ychydig yn is na thargedau'r diwydiant ond roedd maint yr elw yn dal yn gadarnhaol ac roedd 93% o'r carcasau’n bodloni manylebau’r lladd-dy, meddai Dr Genever.

Dywedodd wrth ffermwyr bîff am weithio gyda'u prosesydd os ydyn nhw’n ystyried cyflenwi'r farchnad teirw bîff.

"Yr her gyda theirw ifanc yw mai marchnadoedd cyfyngedig sydd gan rai proseswyr ar eu cyfer nhw: roedd prosesydd Fferm Bryn eisiau nhw pan oedden nhw dros 600kg o bwysau byw,”

Meddai.

O’r 75 o loi a gafodd eu geni ar Fferm Bryn yng ngwanwyn 2020, teirw yw 34 ohonyn nhw. 

Bydd Huw a Meinir yn dechrau’r rhain ar ddogn yn gynharach eleni, ar ôl iddyn nhw dynnu’r teirw bridio o'r fuches. 

“Mae’r gyfradd trosi bwyd ar ei gorau pan fyddan nhw’n iau,’’

Meddai Dr Genever. 

Am bob 4kg o fwyd sy’n cael ei ddidol-borthi dros bedwar mis, fe ddylai’r lloi fagu 1kg o bwysau byw.

O’i gymharu â’r £620 y buasai Huw a Meinir wedi’i gael drwy werthu’r grawn ychwanegol hwn, bydd y cynnydd mewn pwysau byw yn werth £1,998, yn ôl cyfrifiadau Dr Genever.

Roedd y teirw hefyd yn gallu cael eu gwerthu 21 diwrnod yn gynt, oedd yn golygu arbed £1.50 y pen y diwrnod mewn costau bwyd.

Cafodd y weminar ei hwyluso gan Gwawr Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.