Ysgol Tir Morfa

Ymgyrch baw cŵn Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi olion pawennau pinc llachar gerllaw biniau ar draws y wlad.

Mae ymgyrch ‘gadewch olion pawennau yn unig’ yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad i ‘ysgogi’ pobl i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Pawprints

Olion pawennau pinc llachar yn arwain at finiau yw’r cam nesaf wrth ysgogi pobl i waredu eu baw cŵn yn gyfrifol. Mae’n un o ymyriadau niferus Cadwch Gymru’n Daclus i frwydro yn erbyn baw cŵn ar draws Cymru, ynghyd ag arwyddion pinc llachar, posteri a sticeri biniau. 

Dywedodd rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus, Jemma Bere:

“Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad.  Gall baw cŵn beryglu iechyd pobl a nifer o anifeiliaid eraill hefyd. 

“Er mwyn hyrwyddo perchnogaeth cŵn cadarnhaol a chyfrifol i’r nifer fach o berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae olion pawennau pinc llachar yn cael eu paentio ar draws Cymru i arwain pobl yn hawdd i’r bin agosaf.”

Bin

“Ynghyd â’r olion pawennau trawiadol hyn, ceir sticeri biniau ac arwyddion i’w wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod o hyd i fin baw cŵn a gwneud y peth iawn.”

Yn ddiweddar, mae Ysgol Tir Morfa wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch trwy chwistrellu olion pawennau pinc llachar a #BagiwchBiniwch ym Mhwll Brickfields yn Sir Ddinbych.

Dywedodd Mrs F Hoare yn Ysgol Tir Morfa:

Pobl Ifanc

“Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau cymryd rhan yn yr ymgyrch gwerth chweil hwn gyda swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus.  Roedd yn rhagorol iddynt ddysgu am effaith baw cŵn a sut i waredu baw ci yn iawn. 

“Bydd yr olion pawennau pinc llachar yn ei wneud yn haws i gerddwyr cŵn ddod o hyd i’r bin agosaf a gwaredu baw eu ci yn gyfrifol.  Rydym wrth ein bodd yn helpu i gadw ein cymuned leol yn lân ac yn rhydd rhag sbwriel – os ydych yn cerdded eich ci o amgylch Pwll Brickfields, bagiwch a biniwch eich baw ci.”

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. 

I ganfod mwy ac i lawrlwytho deunyddiau am ddim, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru  

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.