Claire Jones

Ar adeg pan fo’r tymor wyna’n nesáu’n gyflym i lawer o ddiadelloedd, mae milfeddyg o ogledd Cymru wedi bod yn annog ffermwyr i fod yn gwbl barod mewn da bryd er mwyn osgoi anawsterau.

Yn y fideo diweddaraf mewn cyfres a gynhyrchwyd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyngor ar iechyd ar y fferm, mae Claire Jones, milfeddyg gyda Milfeddygon Dolgellau a Llysgennad Milfeddygol Stoc+, yn cynnig cyngor ar sawl peth y dylai ffermwyr eu hystyried hyd at chwe wythnos cyn bod disgwyl i'r famog wyna.

Mae Stoc+, prosiect iechyd praidd a buches sy’n cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter bum-mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru. Mae’r prosiect yn gweithio gyda ffermwyr a’u milfeddygon i hyrwyddo rheolaeth praidd a buches yn rhagweithiol.

Dywedodd Claire: “Yn ystod chwe wythnos olaf beichiogrwydd y bydd saith deg pump y cant o dwf y ffetws yn digwydd ac mae yna alw mawr ar egni’r famog wrth iddi ddechrau paratoi ei hun ar gyfer cynhyrchu colostrwm. Felly, mae sgôr cyflwr corff y famog (BCS) yn hollbwysig rhwng pedair a chwe wythnos cyn wyna.”

Mae Claire yn annog ffermwyr i rannu'r mamogiaid yn ôl nifer yr ŵyn a ragwelir gan y sganio er mwyn addasu porthiant wrth baratoi ar gyfer wythnosau tyngedfennol y beichiogrwydd.

Rhywbeth arall i'w ystyried, yn ôl Claire, yw cloffni, “Mae’r defaid yn fwy tueddol o fynd yn gloff pan fyddan nhw’n wyna dan do, ond mae modd lleihau’r risg trwy fod â safonau uchel o hylendid a chadw llygad am unrhyw glefydau’n lledaenu yn ystod wyna."

“Mae colostrwm yn bwysig iawn i ŵyn newydd-anedig. Os bydd oen yn derbyn digon o golostrwm ar yr amser cywir, bydd yn cael imiwnedd goddefol trwy gyfrwng gwrthgyrff a bydd tymheredd ei gorff yn cael ei gynnal er mwyn osgoi goroeri a chlefydau amryfal.”

Leisia Tudor

Ychwanegodd Leisia Tudor, Swyddog Iechyd Praidd a Buches HCC: “Yn ogystal â rhoi sylw i iechyd y praidd, dylai ffermwyr gadw cofnod yn ystod wyna i gadw llygad ar berfformiad y praidd. Gall cadw cofnodion yn ystod wyna fod mor syml â defnyddio beiro a phapur i gofnodi unrhyw achosion o fwrw’r llawes goch, erthyliadau, mamau gwael ac ati.”

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae modd gwylio fideo Claire Jones yma.

Mae rhagor o wybodaeth am Stoc+ a’r Rhaglen Datblygu Cig Coch ar gael yma.