Mae Partneriaid Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn paratoi ar gyfer newidiadau a heriau mawr. Wrth i’r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd a’i Pholisi maethyddol Cyffredin, mae’r partneriaid ar fin gweld newidiadau enfawr a fydd yn chwyldroi sut rydym yn rheoli tir gwledig. Mae cyfarwyddebau polisi yng Nghymru megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a dogfen ymgynghori diweddar Llywodraeth Cymru, Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn dynodi dyfodol pryd mae tirfeddianwyr, ffermwyr a sefydliadau eraill yn darparu nifer o fuddiannau i’r gymdeithas o’r tir y maent yn berchen arno ac yn ei rheoli. Yn hytrach na chael eu talu am y tasgau penodol a gyflawnir ganddynt, caiff pobl eu talu am y nwyddau a’r gwasanaethau amgylcheddol y maent yn eu darparu i’r cyhoedd, megis cynhyrchu bwyd, cyflenwi dŵr glân a chyson, storio carbon ac ecosystemau iachach lle gall pobl ail-greu yn feddyliol ac yn gorfforol.

Ond megis dechrau o hyd y mae’r system talu am wasanaethau ecosystemau. Er bod y syniad o dalu pobl i ddarparu amrywiaeth eang o nwyddau neu wasanaethau amgylcheddol i’r gymdeithas yn gwneud synnwyr mewn egwyddor, ni phrofwyd sut y mae hyn yn gweithio’n ymarferol, yn enwedig ar raddfa tirwedd ledled Cymru. Dywed Phil Stocker, Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon a Phrif Swyddog Cymdeithas Defaid Cenedlaethol:

“Heb ddealltwriaeth drylwyr o gymhelliant, awydd, agweddau neu bryderon rheolwyr tir, mae yna risg wirioneddol iawn y bydd llawer o gynlluniau Talu am Wasanaethau Ecosystemau yn aros yn ddamcaniaethol. Bydd llwyddiant, neu fethiant, Talu am Wasanaethau Ecosystemau yn dibynnu ar ei weithrediad ymarferol.”

Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn archwilio’r gwirioneddau hyn yn lleol. Mae partneriaid yn gweithio gydag AECOM er mwyn deall yn well pa adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardal, pa heriau a all rwystro’r gwasanaethau ecosystemau/ buddion cymdeithasol hyn rhag bod yn barod i’r farchnad, ac archwilio dichonoldeb cyfuno gwasanaethau yn hytrach na’u cynnig yn fuddion unigol. Y prif nod yw datblygu portffolio er mwyn denu nawdd ar gyfer rheoli’r
gwasanaethau ecosystemau a ddarparwyd yn Ardal Brosiect y Mynyddoedd Duon. Bydd hefyd yn bwysig adnabod grwpiau defnyddwyr, buddiolwyr a darpar brynwyr a buddsoddwyr. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig - Cynllun Rheoli Cynaliadwy.

Dywed Harry Legge-Bourke, tirfeddiannwr Ystad Glan-wysg ac aelod o Fwrdd y Prosiect

“Rydym ni o’r farn bod Talu am Wasanaethau Ecosystemau yn rhoi modd cynaliadwy hirdymor i’r bartneriaeth atgyweirio’r Mynyddoedd Duon ac ail-fuddsoddi yn eu dyfodol. Hoffai’r Bartneriaeth fod mewn sefyllfa i dreialu dulliau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn y Mynyddoedd Duon er mwyn profi pa mor ymarferol yw cynlluniau talu amgylcheddol mewn lleoliad tirwedd wirioneddol gan gynnwys nifer o randdeiliaid.”

“Os gallwn ni drefnu’r manylion, gall Talu am Wasanaethau Ecosystemau fod o fudd i dirfeddianwyr a ffermwyr sy’n rheoli’r tir yn ogystal â’r gymdeithas ehangach. Mae pawb ar eu hennill,”

Ychwanegai John Morris, Is-gadeirydd Cymdeithas Porwyr y Mynyddoedd Duon,

“ond mae’n rhaid i bawb chwarae eu rhan er mwyn iddo weithio.”

Nodyn:

Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn fenter gydweithredol rhwng tirfeddianwyr lleol, porwyr a chyrff rheoleiddio perthnasol. Sefydlwyd y Bartneriaeth yn 2015 drwy Gronfa Natur Llywodraeth Cymru, a’i bwriad yw hyrwyddo atgyweiriad a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol y Mynyddoedd Duon, sy’n cynnwys dros 24,600 o hectarau o gynefinoedd ucheldir ac iseldir. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Porwyr y Mynyddoedd Duon; tirfeddianwyr pwysig gan gynnwys Ystad Glan-wysg, Ystad Tregoyd, Ystad Bal Mawr/ Bal Bach, Ystad Dug Beaufort, Ystad Michaelchurch ac Ystad Ffawyddog; Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ‘Natural England’, Clwb Ffermwyr Ifanc ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn 2017, cafodd partneriaid grant gwerth £1 miliwn dros 3 blynedd gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i gynnal prosiectau rheoli rhedyn, mawndiroedd ac ymwelwyr yn y Mynyddoedd Duon.