Mae fferm bîff a defaid organig yn sicrhau gwell perfformiad oddi ar y borfa ers i un o’r partneriaid ymuno ag un o raglenni Cyswllt Ffermio a luniwyd i helpu ffermwyr i reoli eu glaswelltir yn fwy effeithiol.

Ymunodd Phil Cowcher, sy'n ffermio Penrhiw, ger Llandysul, gyda'i rieni, Tom ac Eva, â'r rhaglen Rhagori ar Bori yn 2017.

Ar ôl cwblhau'r lefelau blaenorol, mae bellach yn aelod o'r Grŵp Bîff a Defaid Uwch Estynedig.

Mae'r rhaglen yn cael ei hwyluso ar ran Cyswllt Ffermio gan gwmni Precision Grazing ac mae'r pynciau sy'n cael sylw ar y lefel Uwch Estynedig yn cynnwys meincnodi ariannol.

“Mae cyfrifo manylion ariannol fel elw fesul awr a weithiwyd neu elw fesul hectar (ha) wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n gwneud fferm bîff a defaid broffidiol” meddai Phil.

“Mae hyn yn caniatáu i ni gymharu ein perfformiad â busnesau tebyg, gyda'r nod o ganfod meysydd i'w gwella.''

Mae’r dull cam wrth gam o fewn y rhaglen ar wahanol lefelau, gan ddechrau gyda’r elfennau sylfaenol (lefel mynediad) ar gyfer deall bioleg y pridd a’r glaswellt, wedi helpu Phil i ddatblygu ei system bori.

Mae'r teulu wedi bod yn ffermio'n organig ers 2001, yn ffermio 200ha o dir sy’n berchen iddynt, tir ar rent a thir sy’n cael ei ffermio ar drefniant ffermio cyfran. 

Roedd buches y fferm o 80 o wartheg Stabiliser, y ddiadell o 750 o famogiaid Highlander ac Easycare a 150 o ŵyn benyw wedi bod yn cael eu cadw ar system bori cylchdro llac; roedd yr anifeiliaid yn cael eu symud o fewn ychydig ddyddiau, gan ddibynnu ar faint y caeau. 

Erbyn hyn, mae ffensys trydanol lled-barhaol a dros dro yn cael eu defnyddio i greu padogau llai, a’r anifeiliaid yn cael eu symud o fewn deuddydd. Mae hyn yn cynyddu'r gyfradd stocio ac yn lleihau gofynion dwysfwyd y busnes. 

Mae maint y padogau yn amrywio, gan ddibynnu ar ddosbarth y stoc a maint y grwpiau. 

Mae grwpiau o 150 o famogiaid gyda gefeilliaid yn pori padogau 1ha ar sifftiau deuddydd hyd nes eu diddyfnu.

Mae buchod a lloi fel arfer yn pori padogau a gafodd eu pori gan famogiaid ac ŵyn 24-30 diwrnod ynghynt, er mwyn lleihau baich llyngyr a gwella'r defnydd.    

Mae pori cylchdro yn caniatáu i'r llwyfan bori gael ei stocio ar gyfradd o 15 mamog gyda gefeilliaid fesul hectar, hyd at ddiddyfnu. 

Mae Phil yn cyfaddef bod pori cylchdro yn gofyn am fwy o reolaeth ac ychydig mwy o lafur i osod ffensys ond dywed bod hyn yn hawdd ei wrthbwyso gan enillion yn y glaswellt sy'n cael ei dyfu a'r cynnydd yn y gyfradd stocio.  

“Ers newid i system bori cylchdro mwy dwys, mae cyfansoddiad ac ansawdd  borfa wedi gwella, heb orfod ail-hadu,” meddai.

Mae’r cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer Rhagori ar Bori ar agor rhwng 26 Hydref a 26 Tachwedd. I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud Cynllun Rheoli Maetholion yn ddiweddar, ac os oes angen cymorth gyda hyn, cynghorir y dylent gysylltu â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Mae Phil yn annog ffermwyr yng Nghymru i gysylltu â Cyswllt Ffermio i wneud cais.

Cyn i bob digwyddiad gael ei ohirio o ganlyniad i’r pandemig, roedd ei grŵp yn dod at ei gilydd ar ffermydd am gyfarfodydd wedi’u hwyluso gan Precision Grazing; mae’r cyfarfodydd wedi parhau dros Zoom gyda’r ffermwr sy’n cynnal y cyfarfod yn rhoi taith rithwir o’i fferm.

“Mae'r cyfarfodydd yn gyfle i rannu syniadau, problemau ac atebion gyda ffermwyr o'r un anian, yn aml y syniadau symlaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf amlwg ar fferm, ac mae ochr gymdeithasol o fod yn rhan o'r grŵp hefyd, '' meddai Phil.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.