Feeding pregnant ewes TMR boosts lamb performance at Powys farm

Arweiniodd porthi dogn cymysg llawn (TMR) am chwe wythnos cyn ŵyna at weld mwy o ŵyn yn cyrraedd y targedau tyfiant ar fferm yng Nghymru.

Mae’r teulu Haynes yn cadw diadell o 750 o famogiaid Miwl ar Trefnant Isaf, Safle Ffocws Cyswllt Ffermio ger y Trallwng.

Cyflwynwyd system TMR ar y fferm gyda’r nod o wneud gwell defnydd o silwair wedi ei dyfu gartref ac i roi’r dechrau gorau posibl i ŵyn.

Trefnwyd y prosiect, oedd yn cael ei oruchwylio gan Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio i Ganolbarth Cymru, cyn tymor ŵyna 2018.

Buddsoddodd y teulu mewn wagen borthi ail-law a’i defnyddio i dorri a phorthi’r byrnau silwair mawr i famogiaid unwaith y dydd o ganol Rhagfyr; chwe wythnos cyn ŵyna, ychwanegwyd soia ac india corn mân at y dogn.

Roedd porthi yn cymryd tuag at awr y dydd; ni roddwyd unrhyw ddwysfwyd arall i’r mamogiaid cyn ŵyna.

“Cynyddwyd y swm o india corn a soia wrth agosáu at ŵyna,”

Esboniodd Aled Haynes, sy’n ffermio 240 erw mewn partneriaeth â’i rieni, Gareth ac Ann.

Roedd cyfanswm y silwair a fwytawyd yn uwch na blynyddoedd blaenorol oherwydd ei fod wedi ei falu, dywedodd.

“Roedd y mamogiaid yn llawer mwy bodlon yn y sied ac roedd ganddynt ddigon o laeth, roedd eu cyflenwad llaeth yn dda os nad yn well nag yn ystod y blynyddoedd pan oedden ni’n rhoi dwysfwyd.”

Arweiniodd y cyflenwad digonol o laeth a’r ffaith bod y mamogiaid mewn cyflwr da wrth ŵyna at weld mwy o ŵyn yn cyrraedd y pwysau targed 20kg yn wyth wythnos oed – cyrhaeddodd 153 o ŵyn hyn yn 2018 mewn cymhariaeth â 111 y flwyddyn flaenorol.

Roedd hyn yn golygu bod y busnes, sy’n cyflenwi ŵyn i Waitrose ar gyfartaledd ar y bach o 19.5kg, yn gallu gwerthu mwy o ŵyn yn gynnar yn y tymor.

Cyfaddefodd yr ymgynghorydd defaid annibynnol Lesley Stubbings, cynghorydd y prosiect, bod llawer o ffermwyr yn betrus am fabwysiadu porthi TMR.

“Maen nhw wedi cael eu cyflyru i feddwl nad ydi mamogiaid yn bwyta cymaint yn hwyr yn eu beichiogrwydd ac nid ydyn nhw’n hoffi’r syniad o roi porthiant gydag ychydig o ategion. Maen nhw’n eu llenwi hefo dwysfwyd yn lle hynny.”

Yn ogystal â wagen gymysgu, rhaid i ffermwyr sy’n ystyried TMR fod ag adeilad addas ar gyfer y math hwn o borthi.

Mae dadansoddi porthiant yn allweddol i borthi TMR llwyddiannus ac mae’n cynnig y sylfaen ar gyfer creu cymysgedd o safon uchel, cynghorodd Ms Stubbings.

“Mae ansawdd y porthiant yn amrywiol iawn eleni ac nid oes gan lawer o ffermwyr ddigon o stoc, ond os ydyn nhw’n gwybod gwerth maethol y porthiant a sgôr cyflwr corff eu mamogiaid gallant wneud penderfyniadau ar sut i gau’r bwlch hwnnw.”

Mae ffermwyr sydd wedi derbyn arferion rheoli glaswelltir fel pori cylchdro mewn gwell sefyllfa na’r rhai sydd heb wneud hynny, awgrymodd Ms Stubbings.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn iddyn nhw ond oherwydd eu bod yn gallu rheoli pethau roedden nhw’n gallu gwneud penderfyniadau cyn i bethau fynd o chwith,”

Dywedodd Ms Stubbings.

“Mae’n tanlinellu gwerth gwybod pa gynnwys sych sydd gennych a beth yw eich gofynion.”

Oherwydd yr amodau pori anodd yn 2018, mae gan lawer o ffermwyr famogiaid main a rhaid cofio hyn wrth ffurfio dognau, dywedodd Ms Stubbings. “Mae mamogiaid main yn bwyta mwy na’r rhai mewn cyflwr da.”

Trwy gydol y prosiect Cyswllt Ffermio ar Trefnant Isaf, roedd tyfiant y glaswellt a pherfformiad yr ŵyn yn cael eu monitro i sicrhau bod yr ŵyn yn cyrraedd y targedau.

Dywedodd Lisa Roberts y gallai gwanwyn caled ac yna haf anarferol o sych fod wedi cael effaith ar berfformiad ŵyn, ond mae maethiad da i’r mamogiaid a monitro gofalus ar dyfiant glaswellt wedi talu i’r teulu Haynes. 

“Mae’r ŵyn croes wedi tyfu yn dda hyd eu diddyfnu yn 12 wythnos, gan lwyddo i gynyddu tua 350g a 300g y dydd i rai sengl a gefeilliaid yn eu tro, gan olygu eu bod wedi mynd tu hwnt i’w targed o 30kg wrth ddiddyfnu yn rhwydd,”

Dywedodd.

“Dangosodd y system TMR ei heffeithiolrwydd yn rhoi dechrau da i’r ŵyn. Bydd Aled yn ymdrechu i ailadrodd neu hyd yn oed wella’r perfformiad hwn yn 2019, mewn tywydd mwy caredig gobeithio.”

Mae Aled yn aelod o grŵp trafod Maeth Mamogiaid Cyswllt Ffermio. Alun Bowen, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin, sy’n trefnu’r cyfarfodydd chwarterol.

Roedd yn annog ffermwyr i ddefnyddio’r cymorth ariannol sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio i ddadansoddi porthiant. 

Trwy gofrestru gyda Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gall ffermwyr unigol gael 80% tuag at gost samplo porthiant neu, i grwpiau o dri busnes fferm neu fwy, mae’r gost yn cael ei hariannu yn llawn.

Rhoddwyd arian ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.

 
Gwybodaeth gefndirol:
 
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.