Craig Williams MP

Mae gan ymddiriedolaeth datblygu annibynnol a menter gymdeithasol sy’n cyflawni prosiectau cymunedol cynaliadwy er budd y Drenewydd y potensial i droi’r dref yn brif ddinas economi cylchol y DU.

Dyna farn Craig Williams AS Maldwyn, yn sgil cyfarfod gyda Stuart Owen ac Adam Kennerly, dau o swyddogion Agor Drenewydd i ddysgu mwy am brosiectau cyfredol y cwmni, ac eraill sydd ar y gweill.

Mae Agor Drenewydd, sy’n rholi 140 erw o fannau gwyrdd y Drenewydd, yn cyflawni prosiectau cymunedol cynaliadwy, gyda’r nod o sicrhau fod y dref yn lle hyfyw a bywiog i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef.

Ar y cyd â Chyngor Tref Y Drenewydd, mae’r cwmni wedi datblygu parc chwarae newydd, gyda Thrac Pwmpio BMX a Llwybr Beicio Mynydd, ac ar hyn o bryd mae wrthi’n adeiladu Canolfan Glanyrafon, gwerth £1.5 miliwn, fydd yn rhoi mynediad at Afon Hafren a’r parcdir cyfagos i ymwelwyr a thrigolion lleol, gyda phwyntiau mynediad ar gyfer canŵod, llwybrau natur/treftadaeth ac ysgol goedwig/afon.

Mae partneriaid megis Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a chyngor y Dref, ynghyd â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru yn cefnogi’r prosiectau.

Yn ogystal, mae Agor Drenewydd wedi lansio cyfres o brosiectau partneriaeth, gyda’r nod o ddangos y cysylltiad rhwng mannau gwyrdd a reolir mewn ffordd gynaliadwy, a llesiant gwell.

Ymhlith ei bartneriaid yn hyn o beth mae Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Cymdeithas Hamdden y Drenewydd, Oriel Davies, Cydweithfa Cultivate, Economi Cylchol Canolbarth Cymru, Pont Hafren, Cronfa Bancio Robert Owen, Ymddiriedolaeth Afon Hafren, a Chanolfan Un Blaned.

Mae Agor Drenewydd yn awyddus i ddatblygu potensial yr economi cylchol. Mae’n gweithio eisoes gyda Fferm Fronlas, fferm Grŵp Colegau NPTC, i dorri a chasglu glaswellt dolydd unwaith y flwyddyn, i’w fwydo i dda byw lleol, ac i atal gorfod anfon glaswellt i safleoedd tirlenwi.

Crëwyd ugain o gyfleoedd gwaith rhan-amser lleol, a datblygwyd cysylltiadau a phartneriaethau gyda nifer o sefydliadau er mwyn manteisio i’r eithaf ar adnoddau, a rhannu cysylltiadau a phrofiad.

Mae Agor Drenewydd wedi derbyn cyllid trwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywed Mr Williams: “Mae Agor Drenewydd yn gwmni arloesol rhagorol, ac rwyf yn ei gefnogi’n llwyr o safbwynt dod â mentrau cymdeithasol, preifat a chyhoeddus at ei gilydd i sicrhau fod y Drenewydd yn dref o’r radd flaenaf gyda’r potensial i fod yn brif ddinas yr economi cylchol ac ecogyfeillgar y DU."

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r cwmni, wrth iddo ddatblygu ystod o brosiectau cyffrous yn y dyfodol.”

Meddai Mr Kennerley: “Cawsom gyfarfod hynod adeiladol a diddorol gyda Craig ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gydag ef ar nifer o brosiectau cyffrous ym maes datblygu cynaliadwy ar gyfer Y Drenewydd a gweddill Canolbarth Cymru yn y dyfodol."

“Roedd yn awyddus iawn i glywed am y gwaith a gyflawnwyd hyd yma, a’r gwaith sydd ar y gweill yn Y Drenewydd ar hyn o bryd, a chroesawn ei gynnig i drefnu cyfarfodydd gydag eraill sydd â diddordeb wrth i brosiectau eraill datblygu.”