Jonathan King, Centre (Quality) Manager at Wales Veterinary Science Centre

Dylai ffermwyr defaid fanteisio ar brawf newydd i ganfod a monitro’r clafr, yn ôl prosiect sy’n ymwneud â iechyd preiddiau a buchesi yng Nghymru.

Mae prosiect Stoc+, sy’n cydweithio’n agos â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC), wedi croesawu cyhoeddiad diweddar ynghylch prawf ELISA ar gyfer y clafr sydd bellach ar gael drwy’r Ganolfan.

Dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC), mae Stoc+ yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r prosiect yn cydweithio â ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth ragweithiol o iechyd preiddiau a buchesi fel gall Cymru arwain y byd o ran lles anifeiliaid a bod yn gynaliadwy ac effeithlon.

Gall y clafr gael effaith andwyol ar les a chynnyrch. Mae 24 o’r ffermydd defaid sy’n perthyn i Stoc+ wedi nodi bod y clafr yn un o’u blaenoriaethau ac maen nhw’n gweithio ar y cyd â’u milfeddygon er mwyn rheoli’r sefyllfa’n effeithiol.

Esboniodd Jonathan King, Rheolwr Canolfan (Ansawdd) yn WVSC: “Cafodd y prawf hwn ei ddatblygu gan Sefydliad Ymchwil Moredun, ac mae’n ffordd arall o helpu ffermwyr a milfeddygon i reoli’r clafr.

“Trwy ddewis rhai anifeiliaid o’r praidd a’u profi, gall ffermwyr fod yn weddol ffyddiog ynghylch statws eu praidd os ydyn nhw’n amau neu wedi clywed fod cymydog â phroblemau. I ffermio yn gyffredinol, gall defnyddio’r prawf hwn arwain at ymyriadau mwy penodol, sef dim ond trin anifeiliaid pan fo angen a dibynnu llai ar driniaethau cyffredinol â dipiau organoffosffad (OP) a chwistrelliadau lacton macrogylchol (ML).”

Ychwanegodd Dr. Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches yn HCC: “Mae'r cyhoeddiad diweddar yn newyddion gwych i ffermwyr defaid, ac mae'n gam i'r cyfeiriad iawn tuag at reoli – ac o bosibl dileu – y clafr mewn preiddiau yng Nghymru.

“Mae’r ffermwyr hynny a allai fod yn poeni am y clefyd ac a hoffai ddefnyddio’r prawf newydd hwn yn cael eu cymell gan Stoc+ i gysylltu â’u milfeddygon er mwyn cymryd samplau gwaed i’w cyflwyno i WVSC.”

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.