FM

Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd cyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru am y tair wythnos nesaf.

Er bod y sefyllfa yng Nghymru yn gwella, rhaid i'r cyfyngiadau symud barhau am dair wythnos arall er mwyn rhoi cyfle i'r GIG adfer.

Bydd hefyd yn nodi y gall y dysgwyr ieuengaf mewn ysgolion cynradd ddechrau dychwelyd i'r ysgol ar ôl hanner tymor mis Chwefror, os bydd cyfraddau'r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid addysg ar ddychwelyd fesul cam a hyblyg i'r ysgol ar ôl 22 Chwefror, os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella. Mae cyfraddau'r coronafeirws ledled Cymru wedi gostwng yn is na 200 o achosion am bob 100,000 o bobl am y tro cyntaf ers dechrau mis Tachwedd. Hefyd, bob dydd, mae miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 – mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 11% o'r boblogaeth wedi cael eu brechu.