Nature Arts Drop

Cyflwynir prosiect arloesol yr wythnos hon sy’n cefnogi lles yn ystod y cyfnod clo trwy ddarparu creadigrwydd a chysylltiad natur i gannoedd o blant bregus yn Aberystwyth a'r ardal gyfagos.

Bydd Arts Drop Natur, a lansir yr wythnos hon, yn defnyddio gweithwyr allweddol i ddosbarthu pecynnau gweithgaredd i 600 o blant a phobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl arbennig o dlodi a chael eu hynysu.

Dywedodd Clarissa Richards, Arbenigydd Addysg ar gyfer Coetir Anian, prosiect addysg ac adfer cynefinoedd: “Cefais fy nghyfareddu gan Arts Drop ac roeddem yn teimlo y gallai weithio’n dda iawn gyda’r gwaith rydym yn ei wneud gyda phlant."

“Roedd pawb dan glo ond roedd Arts Drop yn parhau i gyrraedd y plant hynny oedd ag angen dybryd am gefnogaeth. Nid oedd gan blant a oedd yn byw mewn tlodi fynediad hawdd i'r rhyngrwyd ac roeddent yn mynd i fod yn llawer mwy cyfyngedig yn y gweithgareddau y gallent eu gwneud. "

Derbyniodd Arts Drop adborth arbennig gan blant, teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol ar ôl iddo lansio yn Calderdale, Gorllewin Swydd Efrog, ym mis Mai. Dosbarthodd y prosiect fagiau llawn deunyddiau creadigol i dros 3,000 o blant er mwyn iddynt fwynhau gweithio gyda chreonau, papur a deunyddiau eraill.

Cwblhaodd y plant weithgareddau creadigol ar gardiau post a ddyluniwyd yn arbennig gan artistiaid a oedd yn gweithio o dan arweiniad Elaine Burke, ymgynghorydd celfyddydau ac iechyd sy'n arwain Arts Drop.

Y ddatblygiad o’r prosiect gwreiddiol, bydd Arts Drop Natur yn cyfuno'r deunyddiau lluniadu, lliwio a glynu cyfarwydd gydag eitemau naturiol o'r coed a'r caeau lle mae Coetir Anian eisoes yn gweithio gydag ysgolion lleol. Bydd set bwrpasol o gardiau post yn gosod 20 her syml, hwyliog i'r plant gan gynnwys gwneud draenog neu goron natur, gyda'r holl gyfarwyddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyluniwyd y pecynnau ar gyfer tri grŵp oedran - 0 i 5, 6 i 11 a 12 i 18 - a chânt eu dosbarthu o ddydd Llun 9 Tachwedd gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a Barnardo’s Cymru.

Dywedodd Elaine: “Y man cychwyn oedd sut i gefnogi lles ymhlith y plant mwyaf bregus mewn cyfnod mor anodd. Arts Drop oedd yr ateb ac mae Arts Drop Natur wedi'i addasu'n arbennig i ddiwallu anghenion cymuned sy'n bennaf yn un gwledig."

“Rydyn ni'n gwybod am y pwysau sydd ar bobl, rydyn ni'n gwybod bod hwn yn amser ansefydlog iawn ac mae plant yn teimlo dan straen ac yn poeni am eu rhieni a'u dyfodol eu hunain. Rydym hefyd yn gwybod bod gweithgarwch yn helpu i gefnogi pobl, felly mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i helpu plant a phobl ifanc i ymdawelu, i ddysgu sgiliau newydd, i ddatblygu eu dychymyg a pharhau i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o’u hunain."

“Yr adborth a gawsom yw bod hyn wir yn helpu i'w cadw'n brysur, mae'n dod â theuluoedd ynghyd i wneud gweithgareddau ac mae'n rhoi ffocws i blant a'u teuluoedd.”

Cefnogir Arts Drop Natur gan Gronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru, sy'n gweithredu o dan adain Sefydliad Cymunedol Cymru, a Chronfa Gymorth Covid-19 Moondance. Mae YPO Ltd, sefydliad o Wakefield sy'n cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau ledled y DU i gwsmeriaid gan gynnwys ysgolion a chartrefi gofal, wedi parhau â'i gefnogaeth i Dîm Arts Drop. Unwaith eto, rhoddodd Chris Mould, yr awdur a darlunydd o Halifax, ei wasanaethau yn rhad ac am ddim i ail-ddylunio logo arbennig Arts Drop Natur sy'n addurno'r bagiau gweithgaredd.

Dywedodd Clarissa: “Heb eu cefnogaeth ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosib felly rydym yn hynod ddiolchgar."

“Maen nhw'n ein helpu ni i wella lles meddyliol plant sy’n fregus neu mewn perygl a'u teuluoedd yn ystod y pandemig a thu hwnt, trwy eu cysylltu â natur a hynny er mwyn helpu gyda'u sgiliau creadigol, eu meddwl creadigol, eu sgiliau datrys problemau, eu dychymyg, a’u gallu i ganolbwyntio."

“Mae'n anodd dod o hyd i swyddi sy'n talu'n dda yn yr ardal. Mae lefelau tlodi yn uchel ac mae llawer o bobl sy'n gweithio yn gwneud gwaith shifft, sy'n anodd pan fydd gennych deulu. Yn aml, nid oes gan rieni yr amser yr hoffent i dreulio gyda'u plant yn yr awyr agored."

“Mae datgysylltu â natur wedi bod yn digwydd ers cryn amser. Nid yw pobl ifanc mor hyderus am fod yn yr awyr agored, ym myd natur."

“Bydd hyn yn rhoi syniadau a hyder iddynt ynglŷn â sut i ddefnyddio deunyddiau naturiol a phethau y gallant eu gwneud gyda phlant yn yr awyr agored. Mae'n anfon neges at blant bregus eu bod yn bwysig ac nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio.”

I ddarganfod mwy am Arts Drop ewch i https://artsdrop.co.uk/

 

Nature Arts Drop