llysiau ffres ar y bwrdd

Mae COVID-19 wedi dod â dioddefaint i filiynau o bobl ledled y byd. Os bydd unrhyw beth da yn deillio ohono mae rhaid i ni ddysgu sut i osgoi trychinebau tebyg neu fod yn fwy parod y tro nesaf, p’un ai’n bandemig feirol neu fygythiadau lu o newid yn yr hinsawdd.

Heblaw am ddŵr neu aer glân, nid oes dim yn fwy hanfodol i fodolaeth ddynol ryw na bwyd maethlon, iach a fforddiadwy. Pan gyrhaeddodd y coronafeirws yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2020, gwelwyd silffoedd ein siopau’n dechrau gwagio. Dechreuodd pobl brynu’n wyllt wrth iddi wario arnyn nhw ein bod bellach yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi hir, oedd wedi’u gwreiddio mewn gwledydd a oedd yn gweld eu seilwaith yn ysgwyd.

Yma yn nhref farchnad fechan Machynlleth, ac mewn mannau eraill ar draws y DU, trodd y boblogaeth leol gyda diddordeb o’r newydd at y cynhyrchwyr a’r dosbarthwyr cymharol fach lleol o fwyd, cig a llysiau oedd wedi’u tyfu gartref. Cynhyrchwyr oedd y rhain yr oedd pobl yn edrych heibio iddynt yn aml cyn hyn. Hwyrach eu bod yn fach o’u cymharu â’r economi fwyd gonfensiynol, ond maen nhw’n ddibynadwy, ac, i ddefnyddio jargon y bobl sy’n gyfrifol am boeni am y dyfodol - yn wydn.
Mewn ymateb i hyn dechreuodd pobl dyfu mwy eu hunain. Gwelodd y cigydd lleol, gyda’i ladd-dy ei hun a ddarperir gan ffermydd cyfagos yn fwy a mwy poblogaidd. 

Dechreuodd prosiect Ffermio Cymysg - hanesion a’r dyfodol ym mis Ebrill 2019 gyda’r amcan, ymhell cyn y pandemig, o wneud cyfraniad bach lleol yn ardal Biosffer Dyfi i ddiogelwch bwyd. Roedd hyn yng nghyd-destun hinsawdd oedd yn newid a bioamrywiaeth. Mae’r prosiect yn dangos, gan gyfeirio at ddata hanesyddol a defnyddio mapiau ar-lein, y gellir tyfu llawer mwy yng nghanolbarth Cymru nag sy’n cael ei dyfu ar hyn o bryd. Yn hanesyddol, roedd amaethyddiaeth yn yr ardal yn fwy amrywiol hyd nes y gorffennol agos.

Gan nad oedd modd i ni ymgysylltu â’r ffermwyr yr oedden ni wedi bwriadu cwrdd â nhw, troeon ni at gyfarfodydd Zoom wythnosol gyda ‘Planna Fwyd!’ - grŵp o wirfoddolwyr a thyfwyr a drefnodd ei gilydd fel rhan o ymateb coronafeirws Machynlleth. Un o’r canlyniadau oedd map bwyd lleol ‘Cynhyrchwyr a Dosbarthwyr’ ar y wefan. Trwy roi manylion ar 25 o fentrau (siopau, ffermydd, gardd farchnad) a oedd yn tyfu ac yn gwerthu cynnyrch lleol a ffres, y nod yw cefnogi economi fwyd leol ehangach.

Yn y dyfodol byddwn yn parhau i ddefnyddio technoleg i annog pobl i brynu’n lleol. Y flwyddyn nesaf bydd hi’n haws i bobl fedru prynu cynnyrch lleol ffres ar-lein. Hefyd, gobeithio y bydd y ffaith bod pobl yn gwerthfawrogi’r economi fwyd leol yn troi’n system gymhorthdal amaethyddol wedi Brexit sy’n cefnogi’r ffermydd teuluol Cymreig traddodiadol. Y ffermydd yma yw asgwrn cefn ein hamaethyddiaeth o ran cynhyrchu amrywiaeth ehangach o gynnyrch. Cyhyd bod hwn yn cael ei wneud gyda golwg ar ofalu mwy am ecosystemau Cymreig ac adfer y golled mewn bioamrywiaeth.

Efallai y tro nesaf y gwelwn gadwyni cyflenwi byd eang yn cael eu hansefydlogi byddwn yn llai bregus oherwydd y byddwn wedi rhoi mesurau yn eu lle i gefnogi ein ffermwyr a’n tyfwyr i gynhyrchu’r amrywiaeth eang o fwydydd y gall Cymru eu cynhyrchu.

Gwefannau:
Ffermio Cymysg – hanesion a’r dyfodol
Planna Fwyd