Owen Roberts; Dr Rebekah Stuart; Aled Picton Evans; Non Williams; John Richards

Clywodd cyfarfod niferus o ffermwyr wythnos ddiwethaf am fenter ymchwil newydd i edrych ar gost broblemau iechyd cudd mewn diadelloedd defaid i amaeth yng Nghymru.

Mae’r ymchwil yn astudiaeth beilot Gymreig, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caeredin a Phrifysgol Lerpwl, yn dilyn canfyddiadau cychwynnol yn Lloegr gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB). Mae’r ymchwil yn cynnwys profion gwaed o ddefaid cyn hwrdda a chyn ŵyna. Bydd yn archwilio presenoldeb clefyd Johne, cyflwr sy’n anodd ei ganfod ond sydd â goblygiadau sylweddol i iechyd defaid a gwartheg, yn ogystal â llyngyr yr iau ac ymwrthedd gwrthfiotig.

Mae’r rhaglen yn rhan o brosiect Stoc+, sy’n annog rheolaeth ragweithiol o iechyd praidd a buches sef un elfen o Raglen Datblygu Cig Coch (RMDP) gan Hybu Cig Cymru (HCC) - menter 5 mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd gyda'r nod o ddatblygu’r sector cig coch yng Nghymru.

Cafodd y gwaith ei gyflwyno i gynulleidfa o ffermwyr yn rhan o ddigwyddiadau Ffermio Arloesol ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy a gafodd ei drefnu gan HCC a’u cynnal wythnos diwethaf yng Ngholeg Sir Gâr, Fferm Gelli Aur a Choleg Meirion-Dwyfor, Fferm Glynllifon.

“Cydnabyddir bod clefyd Johne yn gyflwr sy’n cyfyngu cynhyrchu’n fawr ac mae astudiaethau blaenorol gan AHDB yn awgrymu bod y bacteria yn bresennol mewn nifer o ddiadelloedd Lloegr a’r Alban. Yn anffodus mae nifer yr achosion yn anhysbys ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd a’r angen am yr astudiaeth gyfredol hon”

Esboniodd Dr Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC, a siaradodd yng Ngelli Aur.

“Mae’r diffyg symptomau mewn defaid yn gallu arwain at ddifa’r anifeiliaid heb ddiagnosis pellach neu ymgynghoriad gyda milfeddyg. Bydd y profion gwaed ar y 41 fferm yng Nghymru yn help i adnabod y nifer o achosion ar ffermydd i alluogi ffermwyr i geisio rheoli’r clefyd. Yn hirdymor, mae cynlluniau iechyd rhagweithiol yn gwella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ffermydd ac yn ymestyn safonau lles Cymru sydd eisoes yn uchel.”

Ymunodd tri siaradwr arall â Rebekah yn Gelli Aur, sef Non Williams, ymchwilydd amaethyddol, ffermwr blaengar, Aled Picton Evans o Rest Farm ger Hendy-gwyn ar Daf a Rheolwr Cyfathrebu HCC, Owen Roberts.

Yng Nglynllifon, cafwyd diweddariad ar brosiectau’r RMDP gan Gwawr Parry Swyddog Gweithredol Geneteg Praidd HCC ac yn ymuno â hi roedd Non Williams, Alwyn Phillips o Fferm Pengelli, Caernarfon a Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC, Rhys Llywelyn.

Fe wnaeth Owen Roberts a Rhys Llywelyn o HCC grynhoi’r diweddaraf am yr ymgyrch cynaliadwyedd aml-gyfryngol sy’n digwydd ar hyn o bryd i hysbysu cwsmeriaid am y ffordd y mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael ei gynhyrchu, yn unol â’r amgylchedd naturiol rhagorol.

Mae Stoc+ wedi derbyn cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.