Herd health project

Mae fferm o Gymru wedi profi gwelliannau gwych yn ffrwythlondeb y fuches ers ymuno â phrosiect iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Gan weithio’n rhyngweithiol gyda’u milfeddyg ar agweddau gwahanol o flaenoriaethau iechyd y fferm yn rhan o brosiect Stoc+, mae Mr a Mrs Jones o’r Drenewydd wedi parhau i ganolbwyntio a mynd i’r afael â chyfraddau beichiogi’r fuches.

Mae Stoc+ yn brosiect iechyd praidd a buches a arweinir gan HCC ac mae’n un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, menter pum mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Nod y prosiect yw gwella’r sector cig coch yng Nghymru drwy weithio gyda ffermwyr a’u milfeddygon i hyrwyddo rheolaeth ragweithiol o iechyd praidd a buches.

Mae Gwyn a Kathy Jones yn ffermio gyda’u plant Olivia ac Edward yng Ngheri ger Y Drenewydd ac maent wedi bod yn rhan o’r prosiect ers 2019. Mae tua 45 o wartheg a 500 o famogiaid magu ar y fferm.

Esbonia Kathy, “Mae ffrwythlondeb y gwartheg wedi bod yn drafodaeth barhaus ar y fferm, ond mae bod yn rhan o Stoc+ wedi ein galluogi i barhau i gadw golwg ar y materion a allai gael effaith ar gyfraddau beichiogi’r fuches.

“Ers ymuno â’r prosiect, rydym wedi edrych ar statws elfennau hybrin y fuches oherwydd roedd y patrwm lloia yn araf. Drwy weithio’n rhagweithiol gyda’n milfeddyg, rydym wedi gallu cynnal profion pellach gan sicrhau cyfnod lloia tynnach.”

Mae Oli Hodgkinson o Filfeddygfa Trefaldwyn wedi bod yn gweithio gyda Mr a Mrs Jones i wella ffrwythlondeb y fuches. Noda Oli, “Mae rhai pwyntiau allweddol i’w hystyried os ydych yn edrych i wella ffrwythlondeb y fuches, fel Gwyn a Kathy.

“I wella cyfraddau beichiogi o fewn y fuches, sicrhewch fod sgôr cyflwr corff y fuwch yn cyrraedd y targedau trwy gydol y flwyddyn a bod statws iechyd da yn cael ei chynnal. Mae dewis tarw iach hefyd yn bwysig a gwirio am unrhyw glefydau a gall cynnal MOT ar y tarw cyn neu yn syth ar ôl prynu fod yn fuddiol hefyd.

“Ni ddylid anwybyddu maeth y fuches. Gwiriwch fod y gwartheg yn derbyn y fitaminau a’r mwynau sydd angen arnynt i feichiogi a chario llo iach. Os ydych yn gobeithio gwella cyfraddau beichiogi ar y fferm, mynnwch air gyda’ch milfeddyg am gyngor penodol sy’n berthnasol i’ch buches.”

Mae’r Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.