Wayne Hayward

Llwyddodd y drydedd Wythnos Porc o Gymru yn olynol  a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) i godi proffil porc o foch a gafodd eu magu yng Nghymru.

O dan y thema ‘Prynu’n Lleol. Meddwl yn Fyd-eang’ cafwyd ymgyrch a barodd am wythnos pan fu cogyddion blaenllaw a phobl ddylanwadol yn creu dewis eang o brydau porc â naws ryngwladol. Hwn oedd y trydydd tro i HCC gynnal ymgyrch i annog pobl i brynu porc lleol o Gymru.

Porc Bao Bun

Bu’r perchennog tai bwyta a beirniad bwyd o Gymru, Simon Wright, yn cymryd rhan fel llysgennad a chynhyrchodd rysáit Bola Porc Cubano yn benodol ar gyfer yr ymgyrch. Yn ogystal â’r pryd o fwyd hwn wedi’i ysbrydoli gan Giwba, cafodd llu o ryseitiau eraill â naws rhyngwladol eu cynhyrchu ar gyfer yr ymgyrch ‘Prynu’n Lleol. Meddwl yn Fyd-eang’ gan flogwyr bwyd. Ymhlith y ryseitiau hyn, roedd Porc Bao Bun, wedi’i dylanwadu gan goginio Tsieina; Porc Bulgogi o Gorea a medaliynau porc Y Caribî. 

Dywedodd Swyddog Datblygu'r Farchnad yn HCC, Kirstie Jones: ‘Mae bwyd â dylanwad rhyngwladol wedi dod yn fwy poblogaidd o lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn yr ymgyrch hon rydyn ni wedi ceisio creu dewis eang o ryseitiau cyffrous sy’n asio coginio byd-eang â chig o’r ansawdd gorau, sef Porc o Gymru.’

‘Yn ogystal â chydweithio â chogyddion a phobl ddylanwadol yn y maes bwyd, buom yn gweithio hefyd â chynhyrchwyr porc a chigyddion a ddaeth at ei gilydd drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Porc o Gymru i rannu eu ffefrynnau o ran darnau o gig a ryseitiau.’

Dywedodd Wayne Hayward o Puff Pigs, ger Aberpennar, sy’n gwerthu porc o’r ansawdd gorau yn ne Cymru:

‘Am ein bod yn cynhyrchu porc ein hunain, rydyn ni’n angerddol ynghylch darparu porc lleol sydd o ansawdd uchel ac yn hawdd ei olrhain i gwsmeriaid. Mae’n wych gweld Porc o Gymru o foch a gafodd eu magu’n lleol yn cael y llwyfan mae’n ei haeddu drwy gyfrwng Wythnos Porc o Gymru.’

Mae gwybodaeth bellach  am Borc o Gymru, ynghyd â ryseitiau a manylion am y mannau gwerthu ar gael yn www.porcblasus.cymru