Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £40m ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol. Bydd hyn yn helpu’r myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt gyda threuliau megis costau llety.

Gofynnir i brifysgolion roi blaenoriaeth i’r myfyrwyr sydd fwyaf agored i niwed wrth ddyrannu cyllid, yn ogystal â chryfhau’r gwasanaethau cyngor a chymorth i fyfyrwyr. 

A’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn astudio gartref ar hyn o bryd, defnyddir y cyllid hefyd i fynd i’r afael â ‘thlodi digidol’ ymhlith myfyrwyr, er mwyn sicrhau gwell mynediad i ddysgu ar-lein, a’r costau sy’n codi yn sgil hunanynysu.  

Mae’r cyllid yn ychwanegol at fwy na £40 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i ddarparu i helpu prifysgolion y flwyddyn ariannol hon, sydd wedi cynnwys £10m tuag at galedi myfyrwyr, cymorth iechyd meddwl ac undebau myfyrwyr.

Daw’r cyllid o Gronfa Wrth Gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru, i gefnogi’r ymateb cenedlaethol i’r pandemig, a chaiff ei ddosbarthu i brifysgolion gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Eleni, am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth, mae yna filoedd o fyfyrwyr sydd heb allu dychwelyd i’w campws eto. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl bod rhai yn dal i dalu am eu llety er nad ydynt yn ei ddefnyddio. Rydyn ni’n cydnabod mor anodd yw hyn, a dyna pam rydyn ni’n cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn.

Mae ein prifysgolion wedi gweithio’n aruthrol o galed i gefnogi eu myfyrwyr, gan sicrhau bod y broses ddysgu wedi parhau, a chan sefydlu mesurau i ddiogelu eu myfyrwyr, eu staff a’u cymunedau lleol ar yr un pryd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddynt adeiladu ar y gwaith da hwnnw.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

Mewn cyfnod mor anodd, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi pobl sydd mewn addysg ar hyn o bryd, pobl a fydd yn gyfrwng i ailadeiladu ein heconomi yn dilyn y pandemig.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, drwy sicrhau bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n agored i niwed a’r rheini y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr yma yng Nghymru, bydd eich prifysgol neu eich undeb myfyrwyr yn gallu darparu mwy o wybodaeth ichi am y cymorth sydd ar gael.