Farming connect stand

Yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd eleni bydd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi bod modiwlau pellach wedi’u datblygu yn sgil nifer uchel y mynychwyr ac effaith rhaglen hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i noddi’n llawn, a lansiwyd yn gynharach eleni. Bydd yr Athro Glossop yn annerch rhanddeiliaid y diwydiant am 3.45pm ddydd Mawrth ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru.   
 
Dywed Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru sy’n arwain y gwaith o ddarparu rhaglen hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio, fod y gyfres newydd o weithdai hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid sector-benodol, sy’n cael eu darparu ar y cyd â mwy na 30 practis anifeiliaid fferm drwy Gymru, ar hyn o bryd yn cynnwys mwy na 145 o filfeddygon sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. 

“Mae mwy na 200 o ffermwyr Cymru eisoes wedi bod yn bresennol mewn un neu fwy o weithdai wedi’u hariannu’n llawn ar atal, trin a gwella rhai o gyflyrau neu glefydau mwyaf cyffredin y diwydiant.

“Mewn ymateb i’r galw cynyddol, gwahoddir mwy o filfeddygfeydd Cymru i gymryd rhan, mae pynciau newydd ar iechyd anifeiliaid yn cael eu hychwanegu at y rhestr bresennol a bydd ffermwyr mwy cymwys, sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, yn cael eu hannog i wneud cais.
 
“Clafr defaid, llyngyr yr iau, llyngyr a pharasitiaid eraill, mastitis, cloffni – Mae’r problemau nodweddiadol iawn yma o ran iechyd anifeiliaid yn felltith yn y diwydiant ffermio nid yn unig yng Nghymru ond drwy’r DU, ac os nad yw’r ffermwr yn sylwi arnynt ac yn eu rheoli’n briodol, mae’r math yma o gyflwr neu glefyd yn gallu cael effaith enfawr ar iechyd a lles anifeiliaid, ac effaith sylweddol ar werth y stoc,” meddai Mr Thomas.

Mae pynciau’r gweithdai’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd a lles anifeiliaid presennol Llywodraeth Cymru a chynlluniwyd y modiwlau hyfforddi gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS).   Mae’r rhestr bresennol o bynciau’r gweithdai’n cynnwys BVD, clefyd Johne; cloffni mewn gwartheg godro; rheoli parasitiaid mewn defaid yn cynnwys llyngyr a phryfed; a lleihau colledion cyn ac ar ôl ŵyna.   
 
Bydd pynciau newydd ar gael erbyn wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys: lleihau mastitis mewn gwartheg godro, TB Buchol, rheoli parasitiaid mewn defaid rhan 2, clafr ar ddefaid, llau a llyngyr yr iau. Mae mwy o fodiwlau wrthi’n cael eu paratoi gan NADIS fydd yn cynnwys cynllunio iechyd anifeiliaid ac ymwrthedd gwrthficrobaidd ac anthelmintig. 
 
Mae pob ffermwr sydd wedi cofrestru Gyda Cyswllt Ffermio’n gallu gwneud cais am le ar un neu fwy o’r gweithdai trwy lenwi ffurflen ‘datganiad o ddiddordeb’ ar-lein ar wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r wefan hefyd yn rhestru’r gweithdai a gynhelir a’r milfeddygfeydd sy’n cymryd rhan. 
 
Bydd pob gweithdy tair awr yn cynnig arweiniad ymarferol ar sut i ganfod, atal, rheoli a thrin rhai o’r clefydau a’r problemau mwyaf nodweddiadol neu sy’n digwydd fwyaf aml ac sy’n effeithio ar fusnesau fferm Cymru. Hefyd trafodir elfennau ychwanegol sy’n cyfrannu at y safonau iechyd a lles gorau posibl i anifeiliaid yn cynnwys bioddiogelwch a’r ffyrdd gorau i osgoi trosglwyddo clefydau. 
 
Rhaid i bob lle gael ei gadarnhau gan y practis milfeddygol perthnasol, gan y bydd pob gweithdy wedi’i gyfyngu i hyd at 20 ffermwr. Os nad yw eich milfeddyg chi’n cynnal y gweithdy/gweithdai sydd o ddiddordeb i chi, gallwch fynegi diddordeb yn yr un/rhai sydd fwyaf perthnasol.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â gwasanaethau ychwanegol Cyswllt Ffermio sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles anifeiliaid, yn cynnwys gwasanaeth mentora un-i-un ar y fferm sydd wedi’i ariannu’n llawn dewis eang o gyrsiau hyfforddi gyda chymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer ffermwyr sydd wedi cofrestru a modiwlau e-ddysgu ar lein wedi’u hariannu’n llawn, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

Mae Cyswllt Ffermio a’r rhaglen hyfforddi Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru’n arwain y gwaith o ddarparu rhaglen hyfforddi Iechyd a Lles Anifeiliaid,  sy’n gytundeb ar alw ar gyfer Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio.