Wyt ti rhwng 16 a 19 mlwydd oed ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu reoli tir?
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth 2019, sydd yn fenter ar y cyd gyda CFfICymru.
Bydd Rhaglen yr Ifanc, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig:
- Cyfle i rwydweithio gyda rhai o’r bobl fwyaf blaenllaw yn y diwydiant bwyd a ffermio
- Rhaglen o weithgareddau llawn ysbrydoliaeth i’ch cynorthwyo i gyrraedd eich targedau
- Hyfforddiant ar gyfer sgiliau cyfathrebu, ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau a sgiliau negodi
- Cyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd, lleisio eich barn a mynegi eich safbwynt mewn modd effeithiol