Welsh lambs

Wrth i lawer o ffermwyr naill ai wyna yn yr awyr agored neu droi ŵyn allan i bori y gwanwyn hwn, mae SCOPS wedi lansio map rhyngweithiol ar-lein sy'n rhagweld pryd fydd y llyngyren perfedd, nematodirws, yn deor.

Mae'r corff iechyd anifeiliaid, Rheoli Parasitiaid mewn Defaid trwy Ddulliau Cynaliadwy (SCOPS), wedi lansio'r map ar sail data tymheredd a gasglwyd o 140 o orsafoedd tywydd ledled y DU, gan gynnwys 14 yng Nghymru.

Gall tywydd oer sy’n cynhesu’n sydyn beri i nifer fawr o larfau nematodirws ddeor - a gall hynny gael effaith sylweddol ar ŵyn ifanc.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), un o bartneriaid SCOPS, yn cymell ffermwyr i fod yn rhagweithiol wrth ofalu am iechyd eu praidd a buchesi trwy ddefnyddio Prosiect Stoc+. Mae hwn yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP), sef menter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i geisio gwella’r sector cig coch yng Nghymru.

Mae’r Rhagolwg Nematodirws ar gael am ddim ar wefan SCOPS -  https://www.scops.org.uk/forecasts/nematodirus-forecast/. 

Caiff y rhagolwg hwn yn ei ddiweddaru'n rheolaidd a gall defnyddwyr chwyddo’r testun  er mwyn darllen y manylion am y risg mewn man penodol. Ar hyn o bryd mae'r risgiau ledled Cymru naill ai'n ddibwys neu'n isel, ond gall y sefyllfa newid yn sylweddol os bydd y tywydd yn newid; felly, y cyngor gorau yw cadw llygad yn rheolaidd ar y rhagolygon tywydd. 

Rosie Gibson, Vet

Ymunodd Rosie Gibson, milfeddyg ym Milfeddygfa Honddu yn Aberhonddu â digwyddiadau Stoc+, Hyfforddi'r Hyfforddwr, yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae wedi rhannu cyngor ynghylch y nematodirws a phwysigrwydd atal y llyngyr yn y modd gorau posibl. 

Meddai Rosie Gibson: “Yr amodau perffaith ar gyfer deor ar raddfa eang yw tywydd delfrydol ac ŵyn sy’n agored i niwed (6-12 wythnos oed) yn pori ar borfa lle bu ŵyn ifanc yn pori y llynedd. Gall hyn achosi clefyd sydyn a difrifol, dadhydradu ac mewn rhai achosion, marwolaeth. Bydd yr ŵyn sy'n goroesi yn tyfu’n arafach na’r disgwyl."

“Fedrwch chi ddim dibynnu ar gyfrif wyau llyngyr o samplau tail i ddangos fod problem yn bodoli oherwydd gall y larfau yn achosi difrod cyn iddyn nhw gyrraedd llawn dwf a dodwy wyau. Byddwn yn cynghori pob ffermwr i edrych ar wefan SCOPS i gael y rhagolygon lleol ar gyfer nematodirws. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yn olrhain sut mae risg yn datblygu."

“Gallwch atal nematodirws yn yr ŵyn trwy beidio â rhoi ŵyn ifanc i bori lle’r oedd ŵyn ifanc yn pori y llynedd a defnyddio moddion lladd llyngyr ar yr adeg iawn. Drenshis gwyn sydd orau oherwydd maen nhw’n dal i fod yn effeithiol rhag nematodirws ac maen nhw hefyd yn addas ar gyfer ŵyn ifainc." 

“Efallai y bydd angen trin ŵyn fwy nag unwaith; mae hynny’n dibynnu ar ystod oed yr anifeiliaid mewn grŵp a’r tywydd. Does dim effaith parhaus yn deillio o unrhyw foddion lladd llyngyr nematodirws. Os ydych chi'n taro problem mewn grŵp, ystyriwch symud yr ŵyn i gae glanach.”

I gael rhagor o gyngor ar leihau’r risgiau a’r triniaethau sydd ar gael, cysylltwch â milfeddyg y fferm.
 
Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.