Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cadarnhau na fydd cyfraddau busnes yng Nghymru yn destun cynnydd ar sail chwyddiant yn 2021 i 2022.

Bydd rhewi’r lluosogydd y flwyddyn nesaf yn helpu i gefnogi tua 54,000 o dalwyr ardrethi ledled Cymru, nad ydynt eisoes yn cael 100% o ryddhad ardrethi. Mae hyn yn golygu bod busnesau wedi arbed dros £90 miliwn ar eu biliau ardrethi ers 2018 i 2019.

Yn gynharach eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi pecyn rhyddhad ardrethi gwerth £580 miliwn i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i fusnesau oroesi’r pandemig.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar fusnesau ac rydym yn parhau i ystyried y mesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith i helpu busnesau i ymdopi ag effaith economaidd pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio’r UE.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i fusnesau na fyddant yn gweld cynnydd yn eu hardrethi busnes y flwyddyn nesaf.