Gall Cynllun LEADER fod yn offeryn economaidd gymdeithasol defnyddiol, wrth ymateb yn uniongyrchol i’r argyfwng mewn ardaloedd gwledig, ac ar gyfer y broses adfer yn y tymor hir Mae Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru wedi nodi blaenoriaethau uniongyrchol
ar lawr gwlad. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sicrhau a dosbarthu bwyd y chyflenwadau meddygol i bawb, gan gynnwys yr ardaloedd mwyaf gwledig/cymdeithasol ynysig
- Nodi adnoddau lleol, gan gynnwys cydlynu gwirfoddolwyr a chefnogi cadwyni cyflenwi byr
- Rhwydweithio a chydweithio i sicrhau ffordd briodol ar sail gwybodaeth ar gyfer diwallu anghenion lleol.
Mae llawer o Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER a’u Cyrff Gweinyddol yng Nghymru wedi addasu eu harbenigedd a ffordd LEADER o weithredu i helpu busnesau a chymunedau yn ystod yr ymateb uniongyrchol i bandemig y coronafeirws.