Rhian Davies

Cynyddodd y galw wrth i bobl brynu mewn panig ac roedd mwy o bobl yn pobi gartref, a dyna pryd y gwelodd David Sharples gynnydd sylweddol mewn cwsmeriaid eisiau nwyddau o Fferm Clyttir, ger Rhuthun.  

Mae 24,000 o ieir maes ar y fferm, yn dodwy mwy na 150,000 o wyau’r wythnos, ac mae’n darparu dewis o jam, mêl ac olew had rêp hefyd.   

Adeiladodd gysgodfa i sicrhau fod pobl yn medru cadw pellter cymdeithasol wrth ymweld â’r storfa wyau yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf, ac eto pan gafodd Cymru ail gyfnod clo byr yn ddiweddar.  

Mae David yn cyfaddef ei fod ef ac eraill yn ei ddiwydiant wedi bod yn lwcus i fedru “dal i fynd” tra bo eraill wedi eu rhoi ar ffyrlo neu’n wynebu perygl colli eu swydd oherwydd y pwysau economaidd a achoswyd gan y pandemig.  

“Rydym i’n ffodus iawn ein bod ni wedi dal i fynd, a thra ein bod ni wedi gweld gwerthu mwy o wyau yma yn y fferm, nid yw’r feirws wedi cael effaith mawr ar ein bywyd gwaith,” meddai.  

“Mae gen i gymaint o gydymdeimlad gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a staff rheng flaen a’r llu o bobl eraill sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino trwy hyn y cyn. Rydw i’n eu hedmygu’n fawr."   

“I ni fel ffermwyr rydym ni wedi dal ati i raddau; roedd y ffyrdd yn llawer tawelach i ddechrau wrth i bobl hunan ynysu ond gan ein bod ni y tu allan am fwyafrif y diwrnod roedd pethau bron yr un fath ag arfer i ni – rydym ni’n medru cadw pellter cymdeithasol yn ein tractorau!”  

Mae’r teulu Sharples yn danfon wyau a jam i’r henoed a’r rhai bregus yn eu cymuned, a byddant yn parhau i wneud hynny’n y dyfodol, fel y mae llawer o’r busnesau sy’n gweithio gyda Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru i annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol.  

Mae llawer o’r cwsmeriaid newydd a ddaeth atyn nhw yn ystod y cyfnod clo cyntaf wedi aros gyda nhw, a sylwodd ar ymateb mwy digynnwrf pan gyflwynwyd y cyfyngiadau diweddaraf.   

“Dydyn ni ddim wedi cael yr un fath o banig gyda’r cyfnod clo diweddaraf, efallai oherwydd ein bod ni’n ardal mwy gwledig ac roedd gan bobl fwy o syniad beth i’w ddisgwyl,” meddai David.  

“Rydym ni’n cyflenwi cigyddion yn Rhuthun a Dinbych, a siopau cymunedol yn lleol, ac mae ganddyn nhw lif cyson o gwsmeriaid o hyd, ond dydi pobl ddim yn ciwio i lawr y stryd – bu llai o brynu mewn panig y tro hwn.”

Ychwanegodd: “Mae’n anodd gwybod sut y bydd pethau’n mynd dros y chwe mis nesaf, does gennym ni ddim syniad mewn gwirionedd gan nad ydym ni wedi bod yn y sefyllfa yma o’r blaen."  

“Y cwbl y medrwn ni ei wneud ydi gweithio gyda’n gilydd a gobeithio y bydd y bobl sy’n rheoli yn medru ein llywio trwy hyn mor gyflym a diogel ag y bo’n bosibl.”  

Mae’r ail ddigwyddiad blynyddol Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru/Taste North East Wales yn cael ei gynnal yn rhithiol eleni wedi i’r trefnwyr, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Bwyd a Diod Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Cadwyn Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, benderfynu cynnal dathliad ar-lein i sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr.   

Derbyniodd y prosiect hwn gyllid gan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  

Os hoffech gael gwybod mwy am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol @taste_blasu neu anfon neges e-bost i taste.blas@gmail.com.  Mae croeso i chi edrych ar y wefan hefyd: www.tastenortheastwales.org. 

Ewch i www.facebook.com/deevalleyproduceltd neu anfon neges e-bost i deevalleyproduce@gmail.com os hoffech gael gwybod rhagor am Dee Valley Produce. 

Dywedodd y cydlynwyr Robyn Lovelock a Jane Clough fod siopa’n lleol a chefnogi busnesu lleol mor bwysig am gymaint o resymau. 
 

“Yn gyntaf, rydym ni’n cadw’n trefi a’n cymunedau’n fywiog,” meddai Robyn.

“Mae siopau bach annibynnol yn rhoi profiad siopa gwych ac yn cadw ein cymunedau’n fyw. Yn ystod amseroedd gwell mae’n gyfle i gyfarfod â ffrindiau a chymdogion a datblygu perthynas gyda’r bobl rydym ni’n prynu ein bwyd ganddyn nhw.”  

Ychwanegodd Jane: “Bydd perchnogion siopau a chynhyrchwyr llwyddiannus yn prynu gwasanaethau gan grefftwyr lleol ac mae’r arian yn cylchredeg mewn modd cynaliadwy.  

“Mae bwyd a diod wedi’i gynhyrchu’n lleol yn wych ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a diogeledd bwyd. Mae lleihau milltiroedd bwyd yn rhan fawr o leihau ein hôl-troed carbon ac mae Covid-19 wedi dangos pa mor fregus y gall cadwyni bwyd fod pan fo bwydydd yn teithio pellteroedd maith.  

“Pan rydym ni’n prynu’n lleol yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd rydym ni’n gwybod sut a lle mae’n cael ei gynhyrchu ac mae hynny’n creu hyder mawr. Mae cynhyrchu a bwyta ac yfed y cynnyrch yn lleol yn rhoi cymaint o fanteision cadarnhaol.”