Ar dydd Iau Mai 7, cyfarfwyd aelodau newydd o Fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC) â'u cyd-gyfarwyddwyr yn rhithiol gydag effaith pandemig coronafirws ar frig yr agenda.

Roedd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, hefyd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod ffurfiol deufisol cyntaf ers yr apwyntiadau newydd, er bod y Bwrdd wedi bod yn cynnal cynadleddau fideo wythnosol fel rhan o'i ymateb i'r argyfwng COVID-19. Clywodd y Gweinidog ac aelodau’r Bwrdd am yr anawsterau parhaus sy’n wynebu’r sector cig coch o ganlyniad i’r argyfwng presennol, a buont yn trafod mesurau HCC i gefnogi’r diwydiant.

Cyflwynwyd tueddiadau manwerthu a data prisiau'r farchnad sy’n dangos fod ymddygiad pobl o ran prynu yn dod yn fwy sefydlog, ond bod colled y sector gwasanaeth bwyd bron yn gyfan gwbl yn dal i gael effaith fawr ar y sector cig eidion, a gallai hefyd effeithio'n andwyol ar y fasnach cig oen dros yr wythnosau nesaf.

Ar ôl cyflwyno mesurau llym i ymladd COVID-19 ym mis Mawrth, gwelwyd ymchwydd yn y galw am gig gan ddefnyddwyr, ond yn bennaf am doriadau rhatach a briwgig. Mae ffigurau Ebrill yn dangos patrwm mwy cyson, ond roedd gwerthiant coesau cig oen dros y Pasg yn is na blynyddoedd blaenorol gan nad oedd teuluoedd yn gallu mwynhau dod at ei gilydd am brydau mawr.

Mae prisiau gwartheg dethol pwysau marw wedi bod i lawr ers dechrau mis Ebrill, ac yn awr tua 20c yn is na lefelau blwyddyn diwethaf, gan adlewyrchu colli masnach mewn stêcs a thoriadau rhostio gan westai a bwytai. Mae prisiau gwartheg difa yng Nghymru a Lloegr hefyd wedi profi cwymp sylweddol yn dilyn cau tafarndai, llawer o leoliadau bwyd cyflym a sefydliadau arlwyo yn y sector cyhoeddus.

Dair wythnos yn ôl, lansiodd HCC ymgyrch farchnata ychwanegol ar gyfer cig oen ac eidion, gan weithio gyda chogyddion blaenllaw i annog defnyddwyr i fwynhau bwyd ‘ar ffurf bwyty’ gartref. Bellach mae hyn wedi'i atgyfnerthu gan ymgyrch gwerth £1.2 miliwn ledled Prydain yn benodol i gefnogi'r sector cig eidion, gan uno'r tri bwrdd ardoll, HCC, AHDB a QMS.

Dywedodd Kevin Roberts, Cadeirydd Hybu Cig Cymru, “Mae aelodau newydd y bwrdd wedi ymuno â’r sefydliad ar adeg o bwysau sylweddol ar draws y diwydiant cig coch. Bydd y dalent a'r arbenigedd a ddônt i'r bwrdd yn amhrisiadwy wrth helpu ein sefydliad i gefnogi'r gadwyn gyflenwi gyfan."

“Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i’r sector cig coch. O ganlyniad, mae'r cloi wedi arwain at anghydbwysedd mawr yn y galw am broseswyr ac amrywiadau mewn prisiau i ffermwyr. Mae'n annhebygol y bydd y sector gwestai ac arlwyo yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflym - naill ai ym Mhrydain nac ymhlith ein prif bartneriaid allforio – felly rydym yn debygol o weld ansicrwydd am wythnosau lawer i ddod "

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae COVID-19 yn cael effaith sylweddol ar ein diwydiant amaeth a chig coch. Roeddwn yn falch o ymuno â chyfarfod bwrdd HCC heddiw i glywed eu pryderon a thrafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i gefnogi'r diwydiant ar yr adegau heriol hyn. "