Mae trigolion Sgandinafia wrth eu bodd â ryseitiau newydd yn cynnwys Cig Oen Cymru PGI a gafodd eu creu gan flogwyr Sgandinafaidd sy’n arbenigo mewn bwydydd.
Yn ogystal â rhannu ryseitiau Cig Oen Cymru PGI â miloedd o’u dilynwyr, mae’r blogwyr dylanwadol Victoria Riis a Kardenmumma Gumman wedi bod yn canmol rhinweddau’r cig o Gymru, gan bwysleisio sut mae’n dod o ŵyn a gafodd eu magu ar borfa las.
Dywedodd Victoria Riis wrth ei darllenwyr: ‘Mae cig oen o Gymru yn enwog ledled y byd am ei ansawdd nodedig. Mae’r amgylchedd lle mae’r ŵyn yn cael eu magu’n chwarae rhan allweddol wrth gynhyrchu’r cig brau a suddlon. Mae’r bryniau a’r dyffrynnoedd lle mae’r ŵyn yn pori yn wyrdd a ffrwythlon, mewn hinsawdd ddelfrydol lle mae’r borfa’n bur a’r dŵr yn ffres.’
Yn y cyfamser, nododd blog Kardenmumma Gumman: ‘Dydyn ni erioed o’r blaen wedi blasu cig oen mor frau.’
Mae’r ryseitiau a grëwyd yn cynnwys: Ragiau o Gig Oen Cymru wedi eu ffrïo â pherlysiau gyda thatws stwnsh a Madeira wedi carameleiddio; lwynau canol Cig Oen Cymru mewn saws gwin brwd gyda salad Cesar gaeafol; a thost surdoes gyda Chig Oen Cymru, salad bresych ac aioli saffrwn.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu'r Farchnad Allforio yn HCC, Deanna Jones: ‘Mae Sgandinafia yn farchnad lle gallem gynyddu ein hallforion o Gig Oen Cymru PGI ac rydym yn gweithio gyda blogwyr a dylanwadwyr i wneud y bobl yno’n fwy ymwybodol o’n cynnyrch.’
‘Mae gan y blogwyr dylanwadol hyn filoedd o ddilynwyr, sy’n golygu y gallwn ddefnyddio dulliau digidol i gysylltu’n uniongyrchol â defnyddwyr. Mae’r ryseitiau a gafodd eu creu gan y blogwyr yn ymgorffori tueddiadau a dulliau Sgandinafaidd, sy’n golygu y bydd Cig Oen Cymru PGI yn apelio at ddefnyddwyr lleol.’
‘Yn ogystal â’r gyfres hon o ryseitiau, rydym hefyd yn gweithio gyda chogyddion teledu ac yn cynnal gweithgareddau dylanwadol eraill i godi proffil Cig Oen Cymru PGI yn Sgandinafia.’