FM

Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog.

Bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu gweithgareddau awyr agored a chwaraeon wedi'u trefnu i blant a phobl ifanc dan 18 oed a hyd at chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol i gyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored.

Mae'r llacio'n parhau â dull cam wrth gam arfaethedig Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws, gan ystyried yr amrywiolyn hynod heintus yng Nghaint, sef ffurf amlycaf y feirws yng Nghymru erbyn hyn.

Dyma gamau olaf y llacio yn y cylch adolygu tair wythnos hwn ac maent yn dilyn llwyddiant disgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb a dechrau ailagor manwerthu nad yw'n hanfodol fesul cam, gan gynnwys agor siopau trin gwallt.

Mae Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac yn awr yn dechrau symud i lefel tri. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Mae'r llacio pellach hwn yn rhan o'n dull gofalus a graddol o ddatgloi'r cyfyngiadau a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel posibl.

Dim ond oherwydd yr aberth y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf y gallwn wneud hyn – mae popeth rydych chi'n ei wneud i gadw'ch anwyliaid yn ddiogel hefyd yn cadw Cymru'n ddiogel.

Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu anhygoel yn mynd o nerth i nerth – mae’n bosibl gwneud y newidiadau hyn.

Bydd llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigod cymorth.

Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y rhai sydd ag esgus rhesymol, megis gwaith, fydd yn gallu teithio i mewn i Gymru neu allan o Gymru. 

Bydd y cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau.

Newidiadau eraill:

  • Bydd chwech o bobl o ddwy aelwyd wahanol, ac eithrio plant o dan 11 oed, yn gallu cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored ac mewn gerddi preifat;
  • Bydd gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a chwaraeon i blant a phobl ifanc dan 18 oed yn gallu ailddechrau;
  • Bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai lleoedd a gerddi hanesyddol;
  • Bydd llyfrgelloedd ac archifau yn gallu ailagor.

Meddai y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Rydym yn cymryd dull cam wrth gam tuag at lacio'r cyfyngiadau ac eisiau parhau i allu agor Cymru.

I wneud hynny mae angen help pawb arnom. Mae hynny'n golygu cadw'n wyliadwrus am arwyddion o’r haint; ynysu os oes gennym symptomau a threfnu i gael prawf.

Mae hefyd yn golygu dilyn y camau sylfaenol i'n cadw ni i gyd yn ddiogel tra byddwn ni allan – gan gadw ein pellter oddi wrth eraill; peidio â chymysgu dan do; osgoi torfeydd; golchi ein dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchuddion wyneb.

Cynhelir yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yr wythnos nesaf. Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y llacio canlynol, a ddaw i rym o’r 12 Ebrill, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd: 

  • Gall pob disgybl a myfyriwr ddychwelyd i ysgolion, colegau ac addysg arall;
  • Gall pob siop a gwasanaeth cyswllt agos agor;
  • Llacio’r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru.