Elan Davies Liz Genever and Kevin Parry

Bydd sicrhau bod sgôr cyflwr corff mamogiaid yn ddigonol yn cynyddu canran sganio, nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni a nifer yr ŵyn sy’n cael eu diddyfnu ar ffermydd defaid yng Nghymru.

Mae’r Hydref yn gyfnod pwysig ar gyfer rheoli mamogiaid er mwyn magu, ond dywed yr arbenigwr defaid annibynnol, Dr Liz Genever, bod angen dechrau paratoi wythnosau ynghynt, ychydig ar ôl diddyfnu.

Mae cyflwr y famog yn effeithio ar ofyliad a chyfraddau beichiogi gan fod lefelau braster wrth gefn yn dylanwadu ar yr hormonau sy’n angenrheidiol er mwyn bridio.

Mae sgorio cyflwr y corff wrth ddiddyfnu felly’n rhoi sylfaen bwysig ar gyfer sut y dylid rheoli mamogiaid cyn y gylchred fagu nesaf gan y bydd mamogiaid sy’n rhy denau yn llai atgynhyrchiol.

Yn ystod digwyddiad Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn Llwynrhydill, Upper Chapel, awgrymodd Dr Genever y dylid rhannu’r ŵyn yn dri grŵp yn ôl cyflwr y corff - tenau, delfrydol a thew - gan roi blaenoriaeth i’r mamogiaid tenau ar gyfer pori.

Mae cadw grwpiau ar wahân yn eich galluogi i reoli ansawdd a lefel cymeriant.

“Mae digon o amser ar gyfer cynyddu cyflwr y corff rhwng diddyfnu a hyrdda, felly mae’n bosib,” meddai Dr Genever.

Dylid anelu at geisio sicrhau’r lefel addas o fraster wrth baru ar gyfer 90% o’r ddiadell - mewn bridiau llawr gwlad, mae hynny’n golygu sgôr cyflwr corff o 3.5 a sgôr o 3 mewn bridiau ucheldir.

Argymhelliad y diwydiant yw sgôr o 2.5 ar gyfer bridiau mynydd, ond mae Dr Genever yn credu y gallai sgôr cyflwr corff o 3 fod yn fanteisiol.

“Datblygwyd y targedau hyn yn y 70au ac rwy’n credu eu bod ychydig yn isel. Credaf ei bod hi’n iawn i famogiaid mynydd fod â sgôr cyflwr ychydig yn uwch,” meddai. 

“Fodd bynnag, gallai olygu canran sganio uwch ac mae angen rheoli hynny.”

Dylai ffermwyr deimlo’r mamogiaid i asesu cyflwr, ac nid dibynnu ar asesiad â’r llygad yn unig. Gellir gwneud hyn drwy afael yn ardal y meingefn, yn syth ar ôl yr asen olaf. Dylid asesu faint o gyhyr y lwyn a gorchudd braster sydd dros y cambylau fertigol a llorweddol.

Mae’n cymryd rhwng 6-8 wythnos i gynyddu un sgôr cyflwr o ran gorchudd braster, felly mae ymyrraeth gynnar yn allweddol. Mae un sgôr cyflwr rhwng 10-13% o bwysau’r corff - ac mae hynny’n 7-9kg mewn mamog 70kg. “Os oes gennych chi famog ar sgôr cyflwr o 2 a’ch bod chi eisiau cynyddu’r sgôr i 3.5, mae angen iddi fagu 13kg,” meddai Dr Genever.

“Mae hynny’n 10 megajoule y dydd uwchben gofynion cynhaliaeth am 10 wythnos, sydd bron iawn yr un fath â’r diet cyn ŵyna.”

Dylai gwaith paratoi cyn hyrdda gynnwys MOT ar yr hwrdd 10 wythnos cyn paru gan y bydd sicrhau bod hyrddod yn cyrraedd y lefelau iechyd gorau yn effeithio ar y canrannau sganio.

“Mae angen i hyrddod fod yn effeithiol pan fyddant yn cael eu cyflwyno i’r mamogiaid, felly mae angen dechrau paratoi yn llawer cynt nag sydd i’w weld ar nifer o ffermydd,” meddai Dr Genever.

Mae hefyd yn golygu bod modd prynu hyrddod eraill a’u cadw mewn cwarantîn os canfyddir unrhyw broblemau.

Mae angen i’r hyrddod fod mewn cyflwr da wrth baru, ond nid yn dew gan fod hyn yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb - mae Dr Genever yn awgrymu sgôr o 3.5-4 ar ddechrau’r cyfnod hyrdda. 

Dywedodd Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, Elan Davies, mai’r brif neges oedd bod angen i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw.

“Peidiwch â’i adael nes dechrau’r cyfnod hyrdda. Mae angen i chi ganiatáu digon o amser i sicrhau bod eich hyrddod yn effeithiol ac i fagu cyflwr y mamogiaid,” meddai.

PANEL

Mae’r cynhyrchwr ŵyn, Kevin Parry, yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hyrdda cyn gynted ag y mae’r mamogiaid wedi ŵyna.

“Os nad ydych chi’n gwneud popeth yn iawn yn ystod y cyfnod hyrdda, mae’n effeithio ar bopeth. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau bod y mamogiaid yn beichiogi adeg hyrdda, mae’n rhy hwyr wedyn,” meddai.

Mae Mr Parry yn cadw diadell o 600 o famogiaid Penfrith Beula a Miwl Cymreig ar fferm Llwynrhydill, Upper Chappel, gan ddefnyddio hyrddod Texel, Beulah a Wyneblas Caerlŷr.

Er mwyn cynorthwyo gyda gofynion llafur, mae’n troi mamogiaid at yr hwrdd mewn tri grŵp - y cyntaf o Hydref 10 a’r trydydd o Dachwedd 5. 

Mae’n anelu at sicrhau bod mamogiaid Miwl ar sgôr o 3.5 wrth fridio a’r mamogiaid Beulah ar sgôr o 3-3.5. Mae ei raglen frechu a thrin llyngyr yn diogelu statws iechyd y ddiadell.

Mae’r hyrddod yn derbyn triniaeth debyg. “Byddwn ni’n cadw llygad barcud arnyn nhw. Maen nhw’n ffit ar y borfa, ond mae angen i sicrhau eu bod yn symudol,” meddai Mr Parry.

Mae’n paru pob un yn unigol ar y gylchred gyntaf o 17 diwrnod.

“Os mae’n hwrdd sydd newydd gael ei brynu, byddwn yn ei redeg gyda hyd at 20 o famogiaid gan ein bod ni eisiau gweld sut mae’n perfformio. Gyda hyrddod eraill lle’r ydym yn ymwybodol o’u perfformiad, byddem yn hapus gyda grwpiau i 50 mamog neu fwy,” meddai Mr Parry.

Mae’n gwerthu ei ŵyn i Kepak yn 19-21kg ar y bach. Mae 95% yn cyflawni targedau ar gyfer cyfansoddiad y carcas a lefelau braster.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.