Unique Street

Mae dirywiad strydoedd mawr Gwynedd yn bryder i nifer o bobl, ond mae Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio taclo’r her hwnnw gan ddefnyddio datrysiadau creadigol!

Mae'r stryd fawr wedi bod yn ganolbwynt i gymunedau ledled Cymru, drwy greu swyddi, meithrin busnesau bach a gyrru economïau lleol a rhanbarthol.

Erbyn heddiw mae’r stryd fawr yn wynebu heriau yn sgil y cynnydd mewn siopa ar lein, canolfannau siopa’ mawr ac archfarchnadoedd. Mae’r uchod wedi cael effaith negyddol ar fasnach y Stryd Fawr a hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad yn ein canol trefi.

Esboniodd Zoe Prichard, Rheolwr AGW “Erbyn heddiw mae defnyddwyr yn chwilio am ystod o brofiadau ar y stryd fawr, o siopa i hamdden i adloniant i wasanaethau iechyd; erbyn heddiw dylai’r stryd fawr fod yn cynnig profiad unigryw na all pobl fynd i unrhyw le arall i’w gael.”

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda thair cymuned ar draws Gwynedd sef Nefyn, Cricieth a Stryd y Plas yng Nghaernarfon. Roedd gan bob un syniadau creadigol a chyffrous i ymateb i’r her ar eu stryd fawr.

Os ydych chi wedi bod am dro lawr Stryd y Plas yng Nghaernarfon yn ddiweddar mae’n debygol iawn i chi weld ymbarelau lliwgar uwch eich pennau! Syniad Caernarfon oedd cael gosodiad celf uwchben y stryd er mwyn ychwanegu at ddelwedd y stryd ond hefyd er mwyn denu pobl i’r stryd i’w gweld.

Mae’r gosodiad celf wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yn hyn, gyda channoedd o luniau o’r stryd yn cael eu rhannu ar y gwefannau cymdeithasol, a phobl yn teithio yn arbennig i’w gweld.

Cynhaliwyd arolwg ar y stryd i holi barn pobl, ac roedd 99% yn cytuno’n gryf bod y gwaith celf yn rhoi argraff dda o’r stryd, tra roedd 61% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod y gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd.

 

Caernarfon Unique Street

 

Yng Nghricieth roedd ganddynt amryw o syniadau diddorol eisiau eu peilota. Yn eu mysg roedd syniadau fel Y Digwyddiad Creadigol, lle cafwyd diwrnod o weithgareddau celf, perfformiadau a gweithdai. Maent hefyd yn annog busnesau Cricieth I gymryd rhan drwy arddangos hen luniau o’r siopau erstalwm i’w cymharu gyda nawr, ac mae nifer o ddarnau celf wedi eu creu ac i’w gweld o amgylch Cricieth. Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn ystod eu digwyddiad roedd 80% o’r bobl wnaeth gymryd rhan yn cytuno’n gryf bod y digwyddiad a’r gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd ac roedd 100% o’r bobl wnaeth gymryd rhan yn cytuno’n gryf bod y digwyddiad a’r gwaith celf yn rhoi argraff dda o’r stryd.

Syniad Nefyn oedd cael parti mawr ar y stryd fawr, gyda cherddoriaeth byw, stondinau crefftau a bwyd a gweithgareddau. Cynhalwyd Parti ar y Pafin ar yr 13eg o Orffennaf ar y Stryd Fawr yn Nefyn, ac roedd yn ddiwrnod gwych! Roedd awyrgylch anhygoel yno, gyda nifer fawr o bobl wedi dod i gefnogi a mwynhau. Roedd nifer o weithgareddau i blant yn ystod y dydd, ac roedd yn gyfle i deuluoedd gymdeithasu, gydag artistiaid fel Anweledig, Gwilym Bowen Rhys a Bwncath yn diddanu yn hwyrach ymlaen!

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.